Gyda’r haf fel pe bai wedi llithro i ffwrdd yn ddigon annisgwyl, mae’n bwysig i ni gofio ei liwiau yn y bwyd yr ydym yn dewis ei fwyta. Gyda’r dyddiau yn byrhau, ynghŷd a’n cymhelliant i fod mor iach ag y gallwn fod, mae pryd fel hwn yn ysgafn, rhesymol, iach a charedig gyda’r corff. Ychydig funudau yn unig y mae’n ei gymryd i’w baratoi, ac mae’n flasus tu hwnt am £4 y pen!


Beth fyddwch chi ei angen?

Stecen tiwna

Nionyn

Nionyn gwyrdd

Pupur pob lliw

Tomato

Halen

Olew Olewydd

Olewydd (olives)

Basil

Glaze Balsamic (dewisol)


Paratoi

Golchwch y bresych kale

Torrwch nionyn gwyn yn fân, pupur pob lliw, nionyn gwyrdd a thomato


Coginio

Arllwyswch ychydig o olew olewydd i badell, a choginiwch y kale am ychydig funudau dros wres canolig, y nionyn, pupur pob lliw, tomato, halen a basil.

Coginiwch y stecen ar wres uchel dros funud neu ddwy ar pob ochr (dibynnu ar drwch y stecen)

Cyflwynwch eich stecen ar y gwely llysiau lliwgar gan ychwanegu nionyn gwyrdd wedi’i dorri’n fân ac olewydd ynghŷd a phupur a halen a sblash o glaze balsamic os liciwch chi! Mwynhewch!