Mae sylwadau Jacob Rees-Mogg am fewnforio cig “wedi’i bwmpio â hormonau” o Awstralia’n “anghredadwy”, yn ôl y ffermwr Gareth Wyn Jones.
Fe wnaeth yr Aelod Seneddol Ceidwadol o Loegr y sylwadau yn ystod cynhadledd ei blaid ddoe (dydd Llun, Hydref 2), a galwodd hefyd am gael gwared ar dariffau mewnforio ar rai bwydydd.
“Dw i eisiau bwyd rhatach,” meddai Jacob Rees-Mogg yn y gynhadledd.
“Dw i eisiau cig eidion wedi’i bwmpio â hormonau o Awstralia.
“Dw i wedi bwyta cig eidion yn Awstralia, ac roedd e’n flasus eithriadol.
“Does yna ddim byd o’i le â’r cig, a dylen nhw allu mewnforio’r cig yma oherwydd rydyn ni eisiau costau is.”
‘Cwbl anghredadwy’
Wrth ymateb i drydariad gan Ethan Jones, un o gyfarwyddwyr y mudiad annibyniaeth YesCymru, dywedodd y ffermwr Gareth Wyn Jones eu bod nhw’n “sylwadau anghredadwy”.
Fe wnaeth Gareth Wyn Jones dderbyn beirniadaeth am fynd â Jacob Rees-Mogg ar daith o amgylch ei fferm ychydig flynyddoedd yn ôl, ac ar X, Twitter gynt, mae’r ffermwr wedi gwadu eu bod nhw’n gyfeillion.
“Os ydy rhywun yn dod i’r ffarm, dydy hynny ddim yn gwneud fo neu hi yn ffrind,” meddai.
Mae Llywydd undeb yr NFU wedi dweud bod Jacob Rees-Mogg yn “gwbl ddi-foes” yn sgil y sylwadau hefyd.
“Cwbl anghredadwy gan Jacob Rees-Mogg – awydd llwyr i ddinistrio amaethyddiaeth Brydeinig – cwbl ddi-foes,” meddai Minette Batters.
Trafod HS2
Bu trafodaethau yn y gynhadledd ynghylch HS2 hefyd, ac mae Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn parhau i wrthod dweud a fydd y rhan rhwng Manceinion a Birmingham yn mynd yn ei flaen ai peidio.
Mae disgwyl iddo annerch y gynhadledd fory (dydd Mercher, Hydref 4), ac mae YesCymru wedi ychwanegu eu llais at yr alwad i ail-gategoreiddio’r prosiect rheilffordd fel un ‘Lloegr yn unig’.
Ar hyn o bryd, mae’r prosiect yn cael ei ystyried yn un ‘Cymru-a-Lloegr’, sy’n golygu bod Cymru wedi colli allan ar arian canlyniadol o hyd at £5bn, yn ôl y mudiad annibyniaeth.
Mae sawl adroddiad yn awgrymu bod disgwyl i Rishi Sunak gyhoeddi na fydd y rheilffordd yn mynd y tu hwnt i Birmingham.