Mae YesCymru wedi ychwanegu eu llais at yr alwad i ailgategoreiddio HS2 fel prosiect ‘Lloegr yn unig’.

Daw hyn yn dilyn adroddiadau na fydd rheilffordd HS2 ond yn cael ei hadeiladu hyd at Birmingham.

Ar hyn o bryd, mae’r prosiect yn cael ei ystyried yn un ‘Cymru-a-Lloegr’, sy’n golygu bod Cymru wedi colli allan ar arian canlyniadol o hyd at £5bn, yn ôl y mudiad annibyniaeth, sy’n dadlau bod y swm yn codi i £6.8bn o ystyried yr arian sydd hefyd yn cael ei fuddsoddi ym Mhwerdy’r Gogledd.

Yn ôl Geraint Thomas o YesCymru, mae HS2 yn “brosiect gwastraffus, nad oedd erioed yn fuddsoddiad Cymru a Lloegr”.

“Amlygodd adroddiadau annibynnol na fyddai’r rheilffordd hon o fudd i economi Cymru, ac yn lle hynny byddai’n arwain at golled i economi Cymru pan fydd wedi’i chwblhau,” meddai.

“Mae terfynu’r llinell yn Birmingham yn rhoi diwedd ar unrhyw honiad posib y bydd unrhyw fudd o gwbl i economi Cymru neu i bobol Cymru ar ôl cwblhau’r prosiect.

“Mae’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn cael ei drin fel llinellau cangen ar rwydwaith y Deyrnas Unedig.

“Mae’n hen bryd ariannu ein rhwydwaith rheilffyrdd, ac wrth i ni yrru tuag at Gymru annibynnol mae angen newid radical yn y ffordd rydym yn cynllunio, dylunio ac ariannu ein rhwydwaith.

“Buddsoddi gan bobol Cymru yn ein rhwydwaith ni’n hun yw’r unig ffordd i sicrhau gwerth am arian, ac i atal Cymru rhag sybsideiddio prosiectau gwastraffus mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig.”

‘Rhaid atal y tanariannu’

Mae YesCymru yn galw ar San Steffan i ryddhau’r £5bn maen nhw’n dweud sy’n ddyledus i Gymru yn sgil Fformiwla Barnett.

“Rhaid atal y tanariannu sydd wedi digwydd i’n rhwydwaith rheilffyrdd ni yng Nghymru, dros ddegawdau, gan lywodraethau San Steffan o bob lliw, ac mae’n hanfodol ein bod yn derbyn yr arian sydd yn ddyledus i ni er mwyn buddsoddi yn ein rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru,” meddai’r mudiad.

“Mae’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn un o’r gwaethaf yn Ewrop, ond gyda dyraniad cyfiawn a moesol o’n harian, mae uwchraddio yn fwy na phosib.

“Mae buddsoddiad £5bn yn gwneud ailwampio radical yn bosibl, gan gynnwys ailsefydlu cysylltiad rhwng y gogledd a’r de, trydaneiddio helaeth a threnau sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.”

 

‘Ymosod ar bobol dlawd yn dangos bod realiti tu hwnt i amgyffred y Ceidwadwyr’

Daw sylwadau Liz Saville Roberts ar drothwy araith gan Jeremy Hunt gerbron cynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion