Mae prosiect ymchwil ym Môn yn torri tir newydd, wrth fonitro adar a bywyd gwyllt oddi ar arfordir Ynys Cybi.

Mae hyn yn rhan o waith paratoi ar gyfer datblygiad ynni llanw Morlais.

Yn gynllun sydd wedi’i drefnu gan Menter Môn, mae Prosiect Ymchwil Nodweddion Morol (MCRP) yn prysur ddatblygu enw iddo’i hun yn fyd-eang am arloesi ym maes ymchwil bywyd gwyllt.

Cafodd ei sefydlu er mwyn caniatáu i ddyfeisiadau ynni llanw Morlais gael eu gosod mewn ffordd na fydd yn peryglu adar na mamaliaid morol.

Y nod yw creu cynllun monitro a lliniaru amgylcheddol, a chasglu canfyddiadau fydd ar gael ar gyfer prosiectau tebyg yn y dyfodol.

Gan gydweithio gydag arbenigwyr o bob cwr o wledydd Prydain, mae’r tîm yn gwneud defnydd o dechnoleg mewn ffyrdd cwbl newydd.

Un enghraifft sydd wedi denu cryn sylw yn y maes yw’r defnydd o ynni solar a thechnoleg LoRaWAN, i ddysgu am ymddygiad adar ger goleudy adnabyddus Ynys Lawd.

Mae tîm MCRP wedi gweithio gyda’r RSPB i greu paneli solar digon bychan i ffitio ar goes aderyn, er mwyn pweru dyfais i gyfathrebu gyda systemau yn ôl ar y tir.

Mae LoRaWAN yn dechnoleg sy’n bodoli ers rhai blynyddoedd, mae’n rhoi’r gallu i gysylltu dyfeisiadau batri yn ddiwifr i’r rhyngrwyd.

Ymddygiad yr adar yn eu cynefinoedd

Yn ôl Helen Roberts, sy’n gweithio ar y prosiect, bydd ymddygiad yr adar yn eu cynefinoedd yn cael ei fonitro.

“Rydyn ni wedi llwyddo i greu paneli solar arferol ar raddfa digon bychan gydag argraffydd 3D i ffitio ar dag ar goes aderyn,” meddai Helen Roberts.

“Gyda thechnoleg LoRaWAN wedi’i gosod ar hwnnw wedyn, bydd y tîm yn gallu monitro ac ymchwilio i ymddygiad yr adar yn eu cynefinoedd.

“Dyma fydd y tro cyntaf i hyn gael ei wneud erioed yn unrhyw le yn y byd – rydym yn edrych ymlaen at weld y canlyniadau.

“Heb os, bydd hyn a’r gwaith tagio sydd eisoes yn cael ei wneud gan academyddion o Brifysgol Abertawe yn rhoi mewnwelediad newydd cyffrous i ni i batrymau bwydo, deifio a theithio’r adar oddi ar arfordir Ynys Lawd ac yn bwysicach, yng nghyd-destun y prosiect hwn, byddwn yn gallu monitro os oes newid yn y patrymau hyn dros yr hir dymor.”

Tagiau ar forloi

Dim ond un o nifer o ddulliau monitro yw’r tagiau solar.

Yn ogystal, mae MCRP newydd gwblhau proses o osod tagiau ar forloi sy’n byw o amgylch arfordir Môn.

Eto, y nod yw ceisio dysgu mwy am sut mae’r mamaliaid yn byw – ond mae’r broses hefyd yn cael ei rhedeg mewn cydweithrediad ag ysgolion lleol.

Trwy dynnu disgyblion i mewn i’r gwaith, gobaith MCRP yw ysbrydoli cenhedlaeth o bobol ifanc i ymddiddori mewn bywyd gwyllt lleol.

Yn ôl, Clare Llywelyn, un arall sy’n gweithio ar y cynllun, y gobaith yw y bydd pobol ifanc yn cymryd diddordeb mewn morloi.

“Trwy weithio efo ysgolion lleol a chaniatáu i ddisgyblion ‘fabwysiadu’ morlo, rydan ni yn gobeithio eu hysbrydoli nhw i gymryd rhan mewn gwyddoniaeth a’r gwaith sy’n cael ei wneud wrth i ni baratoi ar gyfer datblygiad ynni llanw Morlais,” meddai.

“Gyda’r dechnoleg sy’n cael ei defnyddio, mae pobol ifanc yn gallu dilyn a monitro hynt morlo penodol dros gyfnod o tua blwyddyn.”

Er mwyn dysgu mwy am ymddygiad morloi, bydd eu sain yn cael ei ddilyn gyda theclynnau wedi eu hangori ger Ynys Lawd ar wely’r môr.

Mae dyfeisiau PAM (Passive Acoustic Monitoring) yn dilyn sain anifeiliaid i ddysgu sut maen nhw yn bwydo a ble maen nhw’n nofio.

“Gan nad oes llawer o waith wedi ei wneud yn y maes hyd yma, bydd canlyniadau ein hymchwil ni yma ym Môn yn cael ei rannu yn gyhoeddus fel bod prosiectau ynni morol eraill yn fyd eang yn gallu ei ddefnyddio,” meddai Clare Llywelyn.

“Mae’r sector yn dal i fod yn eithaf newydd, felly ein gobaith ni yw chwarae rhan wrth hybu twf mewn ynni cynaliadwy wrth sicrhau diogelwch a ffyniant bywyd gwyllt.”

Cydweithio

Mae Menter Môn yn cydweithio â rhwydwaith o academyddion ac arbenigwyr blaenllaw ar MCRP, gan gynnwys prifysgolion Bangor, Abertawe a St Andrew’s, yr RSPB, Ocean Science Consulting, MR Wallingford, Subacoustech, MarineSpace a Juno Energy.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygiad Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru ac Ystâd y Goron.

Cafodd cynllun ynni llanw Morlais ganiatâd gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn 2021.

Mae’r gwaith o ddatblygu is-orsaf ar gyfer Morlais eisoes ar waith, ac mae disgwyl i’r tyrbinau cyntaf gael eu gosod yn y môr yn 2026.

Wedi’i ddatblygu’n llawn, mae gan y cynllun y potensial i greu hyd at 240MW o drydan.

Bydd y gwaith adeiladu a gweithredu’n digwydd yn raddol, i alluogi monitro’r effaith ar fywyd gwyllt a rhoi camau lliniaru yn eu lle pe bai angen.