Mae un o brosiectau Prifysgol Aberystwyth sy’n darparu cymorth cyfreithiol yn rhad ac am ddim i gyn-filwyr wedi derbyn rhagor o gyllid gwerth £499,885 dros dair blynedd oddi wrth Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Cafodd y prosiect Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr ei sefydlu yn 2015 yn rhan o Adran y Gyfraith a Throseddeg y brifysgol.

Mae’r prosiect yn cynnig cymorth cyfreithiol, cyngor, ac allgyfeiriadau at arbenigwyr i gyn-aelodau o’r lluoedd arfog a’u teuluoedd.

Mae Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr yn gweithio mewn partneriaeth â 40 o sefydliadau ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys y Lleng Brydeinig Frenhinol, Help for Heroes, Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i Gyn-Filwyr a mwy.

Yn 2020, derbyniodd y prosiect grant gwerth £498,392 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Cyn hynny, derbyniodd £45,800 gan y Lleng Brydeinig Frenhinol yn 2019, ac yn 2016 derbyniodd £20,000 gan Gronfa Cyfamod Lluoedd Arfog y Weinyddiaeth Amddiffyn a £5,000 drwy Ddyfarniadau’r Loteri Genedlaethol i Gymru Gyfan.

Mwy o alw am gyngor cyfreithiol

Yn ôl arweinydd y prosiect, mae’r prosiect wedi gweld mwy o alw am gyngor cyfreithiol dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae’r gwaith yn cael “effaith sylweddol” ar fywydau defnyddwyr y gwasanaeth.

“Rwy wrth fy modd bod prosiect Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr wedi derbyn tair blynedd arall o gyllid gan y Loteri Genedlaethol,” meddai Dr Ola Olusanya o Adran y Gyfraith a Throseddeg, sy’n arwain y prosiect.

“Bydd hyn yn golygu y gallwn gynyddu’r gefnogaeth a ddarparwn i gyn-filwyr a’u teuluoedd.

“Mae’r prosiect hwn – y cyntaf o’i fath – yn cael effaith sylweddol ar fywydau pobol sydd ymhlith y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelsom fwyfwy o alw am gyngor cyfreithiol, yn enwedig ym meysydd troseddol, teulu a phlant, cyflogaeth ac ymgyfreitha sifil cyffredinol.

“Mae gan y rhan fwyaf sy’n defnyddio’r gwasanaeth gymysgedd o anghenion cymhleth, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl, anghenion tai a phroblemau â pherthynas, a does dim hawl gan lawer ohonynt i gael cymorth cyfreithiol i’w helpu â’u problemau cyfreithiol.

“Ar hyn o bryd ymchwiliwn i’r effaith y mae’r gallu i ddefnyddio gwasanaethau cyfreithiol yn ei chael ar les seicolegol cyn-filwyr.

“Bwriadwn gyhoeddi canlyniadau’r gwaith hwn yn 2024.”