Mae galwad i ehangu dalgylchoedd dwy ysgol Gymraeg yng nghanol Sir Benfro wedi cael cefnogaeth uwch gynghorwyr.
Yn eu cyfarfod ar Hydref 2, roedd gofyn i Gabinet Cyngor Sir Penfro gymeradwyo ehangu dalgylchoedd Ysgol Brynconin yn Llandysilio ac Ysgol Maenclochog.
Yn 2020, ymunodd Ysgol Brynconin â ffederasiwn ffurfiol ag Ysgol Maenclochog, ac mae un tîm o uwch reolwyr ac un corff llywodraethu’n gofalu am y ddwy ysgol.
Mae dalgylch presennol Ysgol Brynconin yn gorgyffwrdd â nifer o wardiau etholaethol – Maenlochog, Cefn Gwlad Arberth, Llanbedr Felffre, Martletwy a Chas-wis, ac felly hefyd Maenclochog, Cas-wis, Crymych a Mynachlog-ddu, Bro Gwaun, Martletwy, Cilgerran ac Eglwyswrw ar gyfer Ysgol Maenclochog.
Y cynnig
Daeth cynnig, o fis Medi 2024, fod dalgylch Ysgol Brynconin yn cael ei hymestyn i’r gorllewin tuag at dalgylch Ysgol Eglwysig yng Nghymru St Aidan, ac i’r de a’r dwyrain tuag at ddalgylch Ysgol Gynradd Gymunedol Tavernspite, gydag Ysgol Maenclochog yn cael ei hymestyn i’r de a’r gorllewin tuag at ddalgylch Ysgol Eglwysig yng Nghymru St Aidan.
Cafodd ymgynghoriad ar y cynnig i ehangu dalgylchoedd y ddwy ysgol ei gynnal ym Mehefin a Gorffennaf.
Bydd hawl gan ddisgyblion sy’n byw o fewn dalgylchoedd newydd Ysgol Brynconin ac Ysgol Maenclochog a mwy na dwy filltir o’r ysgol i gael trafnidiaeth rhad ac am ddim i’r ysgol, ar gost sydd wedi’i amcangyfrif i fod yn £1,750 y pen ar gyfer pob disgybl.
Adroddiad ar gyfer cynghorwyr
“O ystyried capasiti’r ysgol, niferoedd presennol a rhagdybiedig ar y gofrestr, a graddau tebygol y niferoedd yn deillio o ddatblygiadau tai presennol ac arfaethedig, mae digon o dystiolaeth i awgrymu bod modd ymestyn y dalgylch yn Ysgol Brynconin ac Ysgol Maenclochog,” meddai adroddiad ar gyfer aelodau.
“Ar sail dadansoddiad o ddewisiadau rhieni’r ardal, mae tystiolaeth eisoes fod disgyblion o ddalgylchoedd Ysgol Eglwysig yng Nghymru St Aidan ac Ysgol Gymunedol Tavernspite yn mynd i Ysgol Maenclochog; felly, bydd ehangu’r dalgylch ond yn ffurfioli mynediad i’r ysgol yn y dyfodol.”
Fydd dalgylchoedd St Aidan a Tavernspite yn aros yr un fath ar gyfer darpariaeth addysg Saesneg.
Cymeradwyodd aelodau’r Cabinet y newidiadau arfaethedig yn unfrydol, ar ôl i’r Cynghorydd Guy Woodham, yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg gyflwyno’r cynnig.