Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu rhan o fil newydd sy’n cynnwys cynlluniau i dreialu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig.

Mae’r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig, gafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru ddoe (dydd Llun, Hydref 2), hefyd yn cynnwys mesurau i wella mynediad at wybodaeth a chreu Bwrdd Rheoli Etholiadol newydd i oruchwylio etholiadau yng Nghymru.

Bydd y cynlluniau i dreialu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn cael gwared ar yr angen i bobol gofrestru eu hunain cyn etholiadau.

‘Cofrestru i bleidleisio eisoes yn syml’

Yn ôl llefarydd gogledd Cymru y Ceidwadwyr Cymreig, hawl ac nid rhwymedigaeth yw bwrw pleidlais.

Yn ôl Darren Millar, byddai’r drefn newydd yn achosi “dryswch diangen”.

“Nid yw’n glir pam fod y newidiadau hyn yn angenrheidiol,” meddai Darren Millar wrth ymateb i gyflwyno’r Bil.

“Mae cofrestru i bleidleisio eisoes yn syml ac mae miliynau o bobol yng Nghymru yn llwyddo i wneud hynny bob blwyddyn heb unrhyw broblem o gwbl.

“Bydd gwneud newidiadau i’r system cofrestru pleidleiswyr sy’n berthnasol i rai etholiadau yn unig ac nid rhai eraill hefyd yn achosi dryswch diangen.

“Mae pleidleisio yn hawl, nid rhwymedigaeth, felly mae’n rhaid i bleidleiswyr hefyd gael y dewis i optio allan o unrhyw broses gofrestru awtomatig.”

‘Cael gwared ar rwystrau’

Fodd bynnag, mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol (ERS Cymru) wedi croesawu’r newyddion, ac yn gobeithio y bydd yn cael gwared ar y rhwystrau sy’n atal pobol rhag pleidleisio.

“Bydd y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw yn dod â democratiaeth yng Nghymru i’r 21ain ganrif,” meddai Jess Blair, Cyfarwyddwr ERS Cymru.

“Rydym yn croesawu gweinidogion i edrych ar sut i wneud pleidleisio’n haws i bobol, gan gael gwared ar rwystrau rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobol yn eu hwynebu.

“Gyda’r darpariaethau ar gyfer treialon Cofrestru Pleidleiswyr Awtomatig, mae’r ddeddfwriaeth hon yn paratoi’r ffordd ar gyfer proses gofrestru pleidleiswyr modern yng Nghymru.

“Byddai’r cam hwn yn dod â Chymru yn unol â democratiaethau blaenllaw ledled y byd sy’n cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig fel mater o drefn.”

Papur pleidleisio'n cael ei roi yn y blwch

Croesawu “moderneiddio” y system bleidleisio yng Nghymru

Daw sylwadau Cyfarwyddrwr ERS Cymru wrth i Gymru gyflwyno’r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig heddiw