Bydd cynigion newydd i newid etholiadau yng Nghymru yn cael gwared ar rwystrau diangen i bleidleiswyr, yn ôl yr ymgyrchwyr dros ddemocratiaeth, ERS Cymru.

Mae’r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig, gafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Llun, Hydref 2), yn cynnwys mesurau i dreialu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, gwella mynediad at wybodaeth a chreu Bwrdd Rheoli Etholiadol newydd i oruchwylio etholiadau yng Nghymru.

Bydd y cynlluniau i dreialu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn cael gwared ar yr angen i bobol gofrestru eu hunain cyn etholiadau.

Daw’r Bil bythefnos ar ôl Bil Senedd Cymru, fydd yn gweld diwygiadau i etholiadau, cynnydd i 96 o Aelodau yn y Senedd, newid yn y system bleidleisio, a sefydlu ffiniau etholaethol newydd.

‘Croeso mawr i’r moderneiddio hwn’

“Bydd y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw yn dod â democratiaeth yng Nghymru i’r 21ain ganrif,” meddai Jess Blair, Cyfarwyddwr ERS Cymru.

“Rydym yn croesawu gweinidogion i edrych ar sut i wneud pleidleisio’n haws i bobol, gan gael gwared ar rwystrau rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobol yn eu hwynebu.

“Gyda’r darpariaethau ar gyfer treialon Cofrestru Pleidleiswyr Awtomatig, mae’r ddeddfwriaeth hon yn paratoi’r ffordd ar gyfer proses gofrestru pleidleiswyr modern yng Nghymru.

“Byddai’r cam hwn yn dod â Chymru yn unol â democratiaethau blaenllaw ledled y byd sy’n cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig fel mater o drefn.

“Rydym yn croesawu darpariaethau i sefydlu platfform gwybodaeth newydd i bleidleiswyr.

“Bydd cael siop un stop lle bydd gwybodaeth am ddemocratiaeth yng Nghymru ar gael yn ei gwneud hi’n haws i bleidleiswyr gael gafael ar adnoddau sydd ar hyn o bryd yn eistedd mewn sawl man.

“Bydd etholiadau yn 2026 a 2027, sef y Senedd ac etholiadau lleol i Gymru, yn edrych yn wahanol iawn i flynyddoedd blaenorol.

“Mae croeso mawr i’r moderneiddio hwn ond yn ganolog i’r cynlluniau hyn ddylai fod sut rydym yn eu cyfleu i bleidleiswyr.

“Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau ein bod yn manteisio ar y cyfle hwn i ymgysylltu â’r cyhoedd am ffordd newydd o weithio i ddemocratiaeth Cymru.”

‘Gwadu hawl ddemocrataidd i rai pleidleiswyr’

“Mae’r diwygiadau yn y Bil hwn yn parhau â’r cynnydd sylweddol rydym wedi’i wneud o ran cryfhau democratiaeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys ymestyn y bleidlais i bobol ifanc 16 ac 17 oed a gwladolion tramor cymwys,” meddai Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru a Gweinidog y Cyfansoddiad yn Llywodraeth Cymru.

“Ein huchelgais yw bod newidiadau ar waith mewn pryd ar gyfer yr etholiadau datganoledig a lleol mawr nesaf yn 2026 a 2027, gan ddod â ni gam arall yn nes at gyflawni ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer diwygio etholiadol.

“Yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â’i gwneud hi mor hawdd â phosibl i bobol bleidleisio a chymryd rhan mewn democratiaeth.

“Mae ein gweithredoedd i gael gwared ar rwystrau mewn cyferbyniad uniongyrchol â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd wedi gwadu hawl ddemocrataidd i rai pleidleiswyr drwy fynnu ID ffotograffig yn etholiadau lleol diweddar Lloegr.”