Mae’r ffaith fod y Ceidwadwyr yn ymosod ar bobol dlawd yn dangos bod realiti bywyd y tu hwnt i’w hamgyffred, yn ôl Liz Saville Roberts.
Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ar drothwy araith y Canghellor Jeremy Hunt gerbron cynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion, lle mae disgwyl iddo fe gyhoeddi ei fwriad i dynhau sancsiynau ar bobol sy’n derbyn budd-daliadau pe na baen nhw’n gwneud ymdrech i ddod o hyd i waith.
Yn ôl Liz Saville Roberts, daw’r ymosodiad “yng nghanol argyfwng anghydraddoldeb maen nhw wedi’i greu eu hunain”.
Dywed fod y Deyrnas Unedig ar ei hôl hi yn Ewrop o ran y rhwyd diogelwch ar gyfer pobol ddi-waith.
Ar ôl deufis o fod yn ddi-waith, mae’r Deyrnas Unedig yn cynnig incwm blaenorol o 17% – o gymharu â 90% yng Ngwlad Belg, ac mae hi’n dweud bod y ffigwr hwnnw’n “bitw”.
Dywed fod y syniad y byddai pobol yn dewis “caledi ar fudd-daliadau diweithdra” yn dangos bod “realiti tu hwnt i amgyffred” y Ceidwadwyr.
‘Tactegau tynnu sylw’
Mae Liz Saville Roberts yn galw ar y Ceidwadwyr i roi’r gorau i ddefnyddio “tactegau tynnu sylw”, ac i gynnig eglurder ynghylch dyfodol cynllun HS2 ac i ymrwymo i “iawndal llawn” i Gymru.
O’i thrin yn yr un modd â’r Alban a Gogledd Iwerddon, byddai Cymru’n derbyn oddeutu £5bn o arian canlyniadol gan y Trysorlys ar sail Fformiwla Barnett ar gyfer HS2 pe bai’n cael ei gwblhau.
Pe bai ail gam HS2 yn cael ei ddirwyn i ben, byddai £2bn yn ddyledus i Gymru gan y Trysorlys.
“Mae ymosodiad y Torïaid ar bobol dlawd yng nghanol argyfwng anghydraddoldeb maen nhw wedi ei greu yn datgelu gymaint mae realiti y tu hwnt i’w hamgyffred bellach,” meddai Liz Saville Roberts.
“Rhaid i Jeremy Hunt wynebu’r ffaith ddiflas: mae rhwyd diogelwch y Deyrnas Unedig ar gyfer pobol ddi-waith ymhell y tu hwnt i weddill Ewrop.
“Ar ôl deufis heb waith, mae’r Deyrnas Unedig yn cynnig 17% pitw o incwm blaenorol, sy’n wrthgyferbyniad llwyr â 90% yng Ngwlad Belg, er enghraifft.
“Mae’r syniad y bydd pobol yn dewis caledi ar fudd-daliadau diweithdra o’u gwirfodd yn dangos bod realiti y tu hwnt i’w hamgyffred.
“Does neb yn dewis diweithdra, salwch na thlodi.
“Yn hytrach na’r tactegau tynnu sylw hyn, dylai Jeremy Hunt gynnig eglurder ynghylch dyfodol HS2, ac ymrwymo i iawndal llawn i Gymru, fyddai’n hwb i’n heconomi.”
HS2 o fudd i Gymru?
Mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn dadlau bod HS2 o fudd i Gymru oherwydd y cysylltiad â Crewe.
Ond mae Plaid Cymru’n dweud bod y ddadl honno bellach wedi’i threchu, yn dilyn adroddiadau gan ITV a Sky News fod y rhan o HS2 sy’n mynd i Fanceinion wedi cael ei rhoi o’r neilltu.
Mae hynny’n golygu na fydd yr ardal honno’n cael ei chysylltu â gogledd Cymru yn Crewe, sef y cysylltiad oedd yn cael ei ddefnyddio fel prif ddadl y Ceidwadwyr dros drin HS2 fel prosiect ‘Cymru a Lloegr’, yn hytrach na Lloegr yn unig.
Mae hynny’n golygu nad oes rhaid cynnig hyd at £2bn o arian canlyniadol trwy Fformiwla Barnett, yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon.
“Ar ôl misoedd o gecru llawn embaras gan y Llywodraeth Dorïaidd ddi-drefn hon, daeth cadarnhad bellach na fydd HS2 yn cysylltu gyda gogledd Cymru o Crewe,” meddai Liz Saville Roberts.
“Mae’r holl esgus ffug ‘Cymru-a-Lloegr’ wedi’i chwalu’n llwyr.
“Bellach, does dim amau mai prosiect sydd o fudd i Loegr yn unig yw hwn.
“Mae hynny’n golygu bod biliynau’n ddyledus i Gymru o’r cysylltiad rhwng Birmingham a Llundain.
“Does gan San Steffan ddim esgus bellach dros amddifadu Cymru o’r hyn sy’n ddyledus iddi.”