Mae pobol ym Mhenrhosgarnedd wedi bod yn hel atgofion drwy bedlo ar feic er mwyn mynd i wahanol leoliadau ar fap digidol.

Cafodd preswylwyr tai cymdeithasol Cae Garnedd gymryd rhan yn y sesiwn ‘Hel Atgofion’ drwy dechnoleg gydag Eryri Cydweithredol, sy’n dweud bod y sesiynau’n “arbennig o dda” ar gyfer pobol sy’n byw â dementia.

Mae’r weithgaredd yn ffordd effeithiol o hel atgofion am lefydd roedd preswylwyr yn arfer byw ynddyn nhw, yn ôl Gwenda Hughes, Cyfarwyddwr Eryri Cydweithredol.

Roedd cyfle hefyd i fynd ychydig pellach ar y map.

Mae’r beic wedi’i ddatblygu gan raglen Cymunedau Digidol Cymru, sy’n cynnal ymweliadau cyson i gynlluniau gofal ychwanegol a chartrefi gofal ar hyd a lled Cymru.

“Rydyn wedi bod yng Nghanada, yr Alban, Aberdyfi, fyny yng Nghlegir, Ynys Enlli, Felinheli, Bethel,” meddai.

“Mae yna rywun yn eistedd ar y beic yn pedlo, ac rydym yn mynd i ryw leoliad lle mae pobol eisiau mynd.

“Wedyn, rydyn ni wedi gwneud llawer o hel atgofion lle mae yna bobol sy’n byw lle rydyn ni rŵan, lle oedd eu cartref nhw ers talwm.

“Mae yna lawer o atgofion wedi dod ’nôl, yn enwedig i bobol sydd efallai methu mynd ’nôl i le maen nhw’n dod.

“Mae hwn ar gyfer pawb, ond beth mae’n mynd i helpu lot efo fo ydy efo pobol sydd methu mynd o’u cartrefi.

“Rydym yn dod â’r lleoliadau atyn nhw fel eu bod nhw’n gweld y lleoliadau.

“Rydym yn gwneud llawer o waith hefyd efo unigolion sy’n byw efo dementia, fel ein bod ni’n ysgogi’r cof, ysgogi profiadau iddyn nhw ddechrau cael sgwrs efo ni a sôn am leoliadau.”

‘Dal gafael ar atgofion’

Ychwanega Gwenda Hughes fod trafod atgofion gydag unigolion sy’n byw â dementia yn bwysig, a bod y beic yn gyfle i ysgogi’r atgofion hynny.

“Pan mae rhywun yn byw efo dementia, beth sy’n digwydd yn y diwedd ydy maen nhw’n mynd yn ôl i’w plentyndod, yn ôl i le maen nhw’n dod yn wreiddiol,” meddai.

“Mae’n bwysig dal gafael ar yr atgofion sydd ganddyn nhw a gwneud y mwyaf o atgofion a rhannu profiadau.”

Aeth tua deuddeg i’r sesiwn yng Nghae Garnedd ar Fedi 22, meddai, ac roedd hi’n braf rhannu atgofion o amgylch yr ystafell.

“Roedd mab un yn byw yng Nghanada, mae wedi gallu dangos lle mae’r mab yn byw.

“Mae yna ddwy ddynes arall, maen nhw wedi gallu dangos i ni lle roedd eu cartrefi nhw cyn iddynt symud i Gae Garnedd.

“Wrth wneud y sesiynau rydyn ni yn dysgu hefyd am bwysigrwydd hel atgofion a phrofiadau a rhannu’r profiadau yma.”