Mae hi’n “gwbl annerbyniol” fod Dŵr Cymru’n bwriadu codi mwy ar gwsmeriaid, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Daw eu sylwadau wrth i Dŵr Cymru gyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu buddsoddi £3.5bn rhwng 2025 a 2030, gyda phwyslais ar warchod yr amgylchedd.
Pe bai’r cynllun yn cael ei gymeradwyo gan y rheoleiddiwr Ofwat, gallai biliau dŵr godi £120 y flwyddyn erbyn 2030.
Dan y cynllun busnes newydd, byddai cwsmeriaid yn talu £5 yn fwy bob mis yn 2025 a £10 yn fwy bob mis erbyn 2030.
Y bwriad ydy gwario £1.9bn ar gamau i leihau niwed i’r amgylchedd, a gwella ansawdd dŵr afonydd, gan gynnwys lleihau faint o garthion sy’n llifo i ddyfroedd.
‘Gwylltio cwsmeriaid’
Fodd bynnag, mae llefarydd newid hinsawdd y Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r cynllun, gan ddweud bod y cynnydd mewn prisiau yn “annerbyniol”, oherwydd bod gan gwsmeriaid Dŵr Cymru eisoes yr ail fil uchaf yng Nghymru a Lloegr ar gyfartaledd.
“Ynghyd â hyn, mae cyflog y Prif Weithredwr yn £332,000 (heb gynnwys cyfraniadau pensiwn a thaliadau bonws).
“Yn ddealladwy, bydd hyn yn gwylltio cwsmeriaid gweithgar.”
‘Cynllun mwyaf uchelgeisiol erioed’
Mae’r cynlluniau gan Dŵr Cymru yn cynnwys lleihau faint o ffosffadau sy’n cael ei ollwng i afonydd o safleoedd trin dŵr mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, a rhaglen i atal cannoedd o orlifoedd storm rhag achosi niwed ecolegol.
Ymysg ymrwymiadau eraill mae addewid i leihau gollyngiadau dŵr gan 25%, lleihau achosion o lygredd gan 24%, ac anelu at ‘Gymru ddi-blwm’ drwy osod pibellau newydd ar gyfer 7,500 o gwsmeriaid.
Maen nhw hefyd yn disgwyl arbed £42m drwy ddefnyddio dulliau mwy effeithiol ac arloesol, a rhoi £13m y flwyddyn tuag at gynnal cefnogaeth i aelwydydd incwm isel.
“Dyma ein cynllun busnes mwyaf uchelgeisiol erioed,” meddai Peter Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru.
“Er y bydd yn her sylweddol, rydyn ni’n hyderus bod modd ei chyflawni a’i hariannu a bydd yn helpu i wella ein perfformiad yn sylweddol dros y blynyddoedd nesaf.
“Rydym wedi gallu cadw biliau yr un fath neu’n is mewn termau real dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, mae angen i ni nawr fuddsoddi go iawn yn ein systemau dŵr a dŵr gwastraff i ateb heriau newid hinsawdd, gwarchod ein hafonydd, a gwella gwytnwch ein cyflenwadau dŵr.”