Ar ddechrau mis Hydref, mae elusen yn annog pobol i roi’r gorau i alcohol am y mis wrth godi arian at achos da.

Yr elusen sy’n arwain ‘Sober October‘ ydy Macmillan, ac maen nhw’n cynnal yr ymgyrch er mwyn codi arian, ond hefyd er mwyn helpu pobol i elwa ar fuddion mis heb alcohol.

Bydd yr arian gaiff ei godi yn cael ei ddefnyddio i roi cymorth corfforol, ariannol ac emosiynol i ddioddefwyr canser a’u teuluoedd ledled y Deyrnas Unedig.

Ond ar ben hynny, gall y rhai sy’n cymryd rhan hefyd fwynhau gwell iechyd, colli pwysau, cysgu’n well, a mwy o egni trwy beidio yfed alcohol, meddai’r elusen.

‘Blynyddoedd o ddod i dderbyn fod gen i broblem’

Mae Angharad Griffiths, sy’n gynhyrchydd teledu llawrydd ac yn faethegydd, yn dathlu pum mlynedd heb yfed alcohol.

Ond doedd hi ddim yn siwrne hawdd i gyrraedd y pwynt yma, meddai.

Er ei bod hi wedi ceisio rhoi’r gorau i yfed wrth roi cynnig ar Ionawr Sych ac wedi cael cyfnodau sobor eraill dros y blynyddoedd, roedd hi’n ei chael ei hun yn cyfri’r diwrnodau tan bod y mis ar ben er mwyn cael diod eto.

“If only it was one try and I did it,” meddai Angharad wrth golwg360.

“Roedd e’n flynyddoedd o drio – o leiaf bum mlynedd o drio’n iawn.

“Doedd e ddim yn benderfyniad cyflym.

“Roedd e’n lot o flynyddoedd o dorri calon a dod i dderbyn fod gen i broblem efo alcohol.

“Ro’n i’n gaeth i’r ddiod ei hun, ac i’r ddefod yna dy fod yn haeddu diod ar ôl diwrnod caled.

“Problem fi oedd, y munud ro’n i’n dechrau doeddwn i methu stopio.

“Ro’n i’n gallu mynd wythnosau heb yfed, ond y munud ro’n i’n yfed, roedd e’n yfed to oblivion.

‘Dim dewis ond stopio’

Daeth yr amser pan oedd Angharad Griffiths yn gwybod fod rhaid iddi roi’r gorau i yfed unwaith ac am byth, pan gyrhaeddodd hi bwynt lle’r oedd hi’n meddwl y byddai hi’n marw pe bai hi’n parhau i yfed.

“Erbyn y diwedd, yr haf diwethaf yna cyn i fi rili stopio, ro’n i’n deffro yn chwydu fy hun,” meddai.

“Roedd e fel bod corff fi’n dechrau gwrthod alcohol yn ddifrifol.

“Doedd e ddim yn cymryd lot i fy mhen i fod yn y sinc.

“Ro’n i’n yfed mor gyflym erbyn y diwedd hefyd, achos ro’n i jest yn desperate i feddwi.”

Nid yn gorfforol yn unig yr oedd corff Angharad yn gwrthod alcohol erbyn hyn, gan iddi fynd i “le tywyll” yn feddyliol.

“Ro’n i mor miserable.

“Roedd fy mhen i mewn lle tywyll hefyd, ac ro’n meddwl, ‘Os nad ydw i’n stopio yfed, fi am ladd fy hun’.

“Ro’n i un ai am farw drwy wenwyn alcohol, neu am wneud rhywbeth i fy hun.

“Wnaeth y survival instinct gicio mewn – dyna’r unig ffordd galla i ddisgrifio fe.

“Wnes i feddwl, ‘Dw i’n fam a dw i eisiau byw, ac os ydw i eisiau byw, mae’n rhaid i fi stopio yfed alcohol’.

“Doedd yna ddim dewis ond stopio.”

‘Fi’n teimlo fel gymaint gwell mam’

Yn ôl Angharad Griffiths, mae ei bywyd wedi cael ei drawsnewid yn llwyr ers iddi roi’r gorau i yfed.

Mae hi’n teimlo’n well ynddi hi ei hun, ac yn teimlo’i bod hi’n gallu rhoi mwy o amser i’w phlant erbyn hyn.

“Does yna ddim cymhariaeth i sut oedd fy mywyd yn y cyfnod yna ble ro’n i dal i yfed a nawr,” meddai.

“Mae fy ymennydd yn rhydd, a dw i wedi stopio meddwl amdano fe.

“Ro’n i wastad yn meddwl am naill ai yfed neu ddim yfed.

“Ro’n i mewn dadl gyda fy hun drwy’r amser am yfed neu beidio, oherwydd y llais oedd yn gaeth yn fy mhen.

“Roedd hi’n fodolaeth ddiflas, yn mynd o un penwythnos i’r nesaf yn yfed a dioddef, a nawr mae yna gymaint mwy i fywyd.

“Fi wedi cymhwyso fel maethegydd yn y blynyddoedd diwethaf, a fi’n bresennol gyda fy mhlant ar y penwythnosau.

“Fi ddim jest yn pasio iPad iddyn nhw.

“Ro’n i’n arfer gorwedd yn y gwely’r diwrnod ar ôl yfed, a phasio sgrîn i’r plentyn ar fy mwys i am oriau.

“Fi’n deffro ac yn mynd am dro gyda’r plant, a fi’n teimlo fel bo fi’n gymaint gwell mam.

“Mae’r gwahaniaeth yn syfrdanol.”


Cyngor Angharad ar gyfer y mis sobor

  1. Lawrlwythwch ap sobrwydd i gyfri eich diwrnodau’n sobor a faint o arian rydych chi’n ei arbed.
  2. Cofnodwch gwpwl o bethau’r dydd rydych chi’n teimlo’n ddiolchgar amdanyn nhw.
  3. Peidiwch â chynllunio noson fawr ar gyfer eich diwrnod cyntaf yn yfed eto (os ydych yn penderfynu gwneud) – “bydd eich tolerance i lawr!”
  4. Defnyddiwch wydr arbennig ar gyfer eich diod ddi-alcohol er mwyn gwneud iddi deimlo fel trît.
  5. Stociwch i fyny ar y diodydd di-alcohol, a rhowch gynnig arnyn nhw i gyd i ffeindio’r rhai rydych chi’n eu hoffi.
  6. Os ydych chi’n mynd allan am noson, ewch adref ar yr adeg pan fydd pobol yn dechrau ailadrodd eu hunain, a pheidiwch bodran dweud ’ta-ta’, achos does neb byth yn cofio!”