Mae 18% o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu o Gymru, yn ôl adroddiad newydd ar fyd natur y wlad.
O bron i 3,900 o rywogaethau gafodd eu hasesu yn yr adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru 2023, mae dros 2% ohonyn nhw wedi diflannu eisoes.
Mae anifeiliaid a phlanhigion fel Llygoden y Dŵr (water vole), Madfall y Tywod (sand lizard) a Thegeirian y Fign Galchog (fen orchid) ymysg y rhywogaethau sydd mewn perygl o ddiflannu bellach.
Mae’r ymchwil yn dangos bod rhywogaethau fel Eog yr Iwerydd a’r Gylfinir hefyd wedi prinhau’n ddifrifol yng Nghymru.
Yn ôl yr adroddiad, mae toreth rhywogaethau tir a dŵr croyw wedi gostwng 20% ar gyfartaledd ers 1994.
Mae pwysau ar fywyd gwyllt yn golygu bod Cymru bellach yn un o’r gwledydd sydd wedi dirywio fwyaf ar y blaned o ran byd natur, yn ôl dadansoddiad y Mynegai Cyflawnder Bioamrywiaeth.
‘Problem genedlaethol’
Dyma’r degfed adroddiad ar sefyllfa byd natur Cymru, ac mae’n dangos sut mae’r wlad yn “wynebu trobwynt hollbwysig yn yr argyfwng natur”, yn ôl Alun Prichard, Cyfarwyddwr RSPB Cymru.
“Problem genedlaethol, sydd angen gweithredu cenedlaethol,” meddai.
“Ond rydyn ni’n gwybod beth sydd angen i ni ei wneud; rydyn ni’n gwybod beth sy’n gweithio.
“Rhaid i lywodraethau, busnesau, cymunedau a’r cyhoedd weithio gyda’i gilydd yn awr ac ar fwy o frys yn gyffredinol os ydym am roi byd natur yn ôl lle mae’n perthyn.
“Mae angen inni fod yn uchelgeisiol ac ysbrydoledig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
‘Rhywfaint o gynnydd’
Er y dirywiad, mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at sut mae gweithredu dros natur wedi gwneud gwahaniaeth.
Ers 1998, mae poblogaeth ystlumod Cymru wedi cynyddu gan 76%, ac mae gloÿnnod byw sy’n dibynnu ar reolaeth cynefinoedd arbenigol wedi dechrau adfer dros y degawd diwethaf.
“Er gwaethaf rhywfaint o gynnydd, mae Cymru’n dal i wynebu heriau ym maes cadwraeth bioamrywiaeth,” meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru.
“Mae newid yn yr hinsawdd, colli cynefinoedd, newidiadau mewn defnydd tir, rhywogaethau ymledol, a llygredd yn parhau i effeithio ar ein hecosystemau.
“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn falch o weithio gyda phartneriaid i ddarparu’r dystiolaeth orau sydd ar gael y gall pawb ei defnyddio i ddeall yn well sut mae natur yn newid ledled y Deyrnas Unedig, ac i ddefnyddio’r dystiolaeth honno i sbarduno gweithredu.
“Rhaid sicrhau bod ffyniant byd natur yn ymdrech ar y cyd ar draws y llywodraeth, busnes a chymdeithas.
“Dim ond gyda’n gilydd y gallwn roi Cymru ar sylfaen gadarn ar y llwybr i adferiad byd natur.”