Mae’r Aelod o’r Senedd dros Drefaldwyn wedi galw am ymchwiliad i benderfyniad Cyngor Sir Powys i werthu dwy fferm.
Daw galwadau Russell George yn dilyn penderfyniad gan y Cyngor ym mis Medi eleni i werthu dwy fferm yn Nhre’r Llai yn Y Trallwng.
Cafodd y gwerthiant ei gymeradwyo mewn egwyddor mewn “sesiwn tu ôl i ddrysau caeedig” gan Gabinet Cyngor Sir Powys ar Fedi 19, pan ystyriodd cynghorwyr adroddiad wedi’i farcio “nid i’w gyhoeddi”, yn ôl Russell George.
Mae Russell George wedi mynegi pryder am y broses o wneud penderfyniadau gyda Chyngor Sir Powys ac Archwilio Cymru, ar ôl cael gwybod nad oedd tenant presennol y ddwy fferm wedi cael gwybod am unrhyw werthiant posib.
Doedden nhw ddim wedi cael cynnig cyfle i brynu’r eiddo, adeiladau’r fferm na’r tir y maen nhw’n yn eu rhentu ar hyn o bryd chwaith, yn ôl yr Aelod o’r Senedd.
‘Testun pryder’
”Rwy’n pryderu efallai nad yw Cyngor Sir Powys wedi darparu’r gwerth gorau am arian mewn penderfyniad y maen nhw wedi’i wneud yn ddiweddar ac roedd hefyd yn groes i’w hegwyddorion o fod yn agored, cynhwysiant, uniondeb ac atebolrwydd,” meddai Russell George.
“Rwy’n deall bod tenantiaid pryderus eraill yn poeni y gallai eu ffermydd fod ar werth nesaf heb iddyn nhw wybod.
“Gefais i wybod gan denant presennol y ddwy fferm nad oedden nhw wedi cael gwybod am unrhyw ddarpar werthiant, ac nid oedden nhw ychwaith wedi cael cynnig y cyfle i brynu’r eiddo, adeiladau’r fferm a’r tir y maen nhw yn eu rhentu ar hyn o bryd.
“Mae’n destun pryder bod y Cabinet yng Nghyngor Sir Powys wedi gwneud penderfyniad busnes mewn lleoliad cyfrinachol nad oedd yn agored i graffu cyhoeddus, rwyf hefyd yn pryderu na wnaeth yr awdurdod lleol gynnig gwerthu’r ddwy fferm ar y farchnad agored na rhoi cyfle i’r tenant presennol brynu’r tir a’r adeiladau.
“Rwy’n pryderu y gallai’r penderfyniad a wnaed gan yr awdurdod lleol fod wedi’i wneud heb yr holl wybodaeth gywir.
“Rwyf hefyd wedi mynd â’r mater i Archwilio Cymru i ofyn a fedran nhw ymchwilio i weld a oedd yr awdurdod lleol yn dilyn ei bolisïau ei hun o fod yn agored, cynhwysiant, uniondeb ac atebolrwydd, ac a gafodd y trethdalwr y gwerth gorau am arian gyda’r penderfyniad a wnaed yn y sesiwn gyfrinachol.”
Dim sylw pellach gan y cyngor
“Mae’r Cabinet wedi ystyried adroddiad cyfrinachol ac argymhellion Gweithgor Ffermydd y Sir, a chlywodd gan y Cadeirydd ac aelodau’r grŵp ynghylch gwerthu fferm,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys.
“Penderfynodd y Cabinet i gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad.
“Nid yw’n bosibl inni wneud unrhyw sylw pellach, oherwydd roedd yr adroddiad yn gyfrinachol.”