Mae canolfannau anifeiliaid amddifad yn “llawn dop”, gan fod mwy o anifeiliaid yn chwilio am gartrefi nag sy’n cael eu mabwysiadu.

Yn ôl un canolfan cŵn amddifad yn Sir Gaerfyrddin, mae “argyfwng” yn y sector, ac maen nhw wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw am eu gwasanaeth dros y blynyddoedd diwethaf.

Fe welodd yr RSPCA gynnydd o 6% yn nifer y cŵn amddifad dros y Deyrnas Unedig rhwng 2021 a 2022, a chynnydd o 4% yn nifer y cathod sy’n chwilio am gartref.

Mae ymchwil newydd gan yr elusen yn dangos bod 72% o boblogaeth gwledydd Prydain yn dweud nad ydyn nhw’n bwriadu cael anifail anwes newydd.

Mae nifer yr anifeiliaid sy’n cael eu mabwysiadu yn gostwng hefyd, yn ôl yr RSPCA.

Cafodd 5% yn llai o anifeiliaid eu mabwysiadu gan yr RSPCA yn 2021 o gymharu â 2022, ac ers 2019 mae’r nifer wedi gostwng gan 34%.

Er mwyn trio gwella’r cyfraddau mabwysiadu, mae’r RSPCA wedi lansio ymgyrch ailgartrefu Adoptober heddiw (dydd Llun, Hydref 2) er mwyn tynnu sylw at anifeiliaid sy’n chwilio am gartrefi.

‘Gormod o gŵn angen help’

Mae’r West Wales Poundies ger Llandeilo yn achub tua thri o gŵn o’r pownd yn Sir Gaerfyrddin bob wythnos ar gyfartaledd.

Ers i’r cyfnodau clo ddod i ben, maen nhw wedi gweld cynnydd yn nifer y cŵn amddifad, yn ôl un o’u gwirfoddolwyr, Catherine Mckee.

“Cafodd lot o bobol gŵn bach neu gael cŵn hŷn yn ystod y cyfnodau clo ac wedyn aeth pobol yn ôl i’w gwaith neu golli diddordeb yn eu cŵn, a dechrau troi eu cefn arnyn nhw,” meddai wrth golwg360.

“Mae llawer o’r cŵn amddifad tua dwy neu dair oed, dydyn nhw heb fod o gwmpas cŵn na phobol eraill, heb gael unrhyw hyfforddiant achos doedd pobol methu mynd â nhw i ddosbarthiadau’n ystod y cyfnodau clo.

“Mae cŵn ein hangen ni fwy nag erioed, ond does gennym ni ddim y lle na’r adnoddau na’r cyllid i helpu gymaint ag y bysan ni’n licio.”

Hyd yn hyn eleni, maen nhw wedi dod o hyd i gartrefi i bron i 140 o gŵn, ac mae ganddyn nhw wastad tua chan ci dan eu gofal.

“Mae yna ormod o gŵn angen ein help ar y funud,” meddai Catherine Mckee wedyn.

“Mae yna argyfwng o ran cŵn amddifad.”

‘Anelu at argyfwng’

Mae’r RSPCA yn poeni y bydd angen help ar ragor o anifeiliaid yn sgil yr argyfwng costau byw hefyd.

“Rydyn ni’n lwcus i gael gymaint o bobol hyfryd yn mabwysiadu anifeiliaid amddifad o’n canolfannau a’n canghennau bob wythnos, ond dydy e ddim yn ddigon,” meddai Samantha Gaines ar ran yr elusen.

“Dydy nifer yr anifeiliaid sy’n dod mewn ddim yn cyd-fynd â nifer yr anifeiliaid sy’n cael eu mabwysiadu ar y funud, ac rydyn ni’n anelu at argyfwng.

“Eleni’n barod rydyn ni wedi derbyn 9,748 galwad am anifeiliaid amddifad [dros y Deyrnas Unedig], o gymharu â 8,551 yn ystod chwe mis cyntaf 2022.

“Cyn hir, bydd ein canolfannau’n gorlenwi.

“Dyna pam ein bod ni’n lansio Adoptober – mis wedi’i ymrwymo i hyrwyddo anifeiliaid amddifad, a pham y dylai pobol sy’n ystyried cael anifail ddewis mabwysiadu.

“Mae Adoptober yn gyfle i ni ddathlu sut all anifail anwes wella’n bywydau, rhoi goleuni ar nifer o anifeiliaid sy’n chwilio am gartrefi newydd, ac amlygu’r gefnogaeth a’r cyngor i bobol ar sut i gadw’u hanifeiliaid yn ddiogel yn ystod yr argyfwng costau byw.”

  • Bydd modd darllen mwy am hanes West Wales Poundies yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.