Mae pedair tref yng Nghymru ymhlith rhai fydd yn derbyn buddsoddiad ar gyfer trefi sydd wedi cael eu hanghofio yn y gorffennol.

Bydd Merthyr Tudful, Wrecsam, Cwmbrân a’r Barri, ynghyd â 51 tref yn Lloegr a’r Alban, yn derbyn arian ‘codi’r gwastad’ gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Gobaith cynllun ‘codi’r gwastad’ Llywodraeth San Steffan yw dyrchafu pob rhan o’r Deyrnas Unedig yn economaidd ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dan y buddsoddiadau hirdymor, fe fydd y trefi’n derbyn £20m am ddeng mlynedd, i’w wario ar flaenoriaethau pobol leol, fel adfywio’r stryd fawr neu wella diogelwch y cyhoedd.

Bydd y trefi sydd wedi’u dewis i fod yn rhan o’r ‘Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi’ yn gorfod sefydlu Bwrdd Tref i ddod ag arweinwyr cymunedol, cyflogwyr, awdurdodau lleol a’r Aelod Seneddol lleol ynghyd.

Ynghyd â hynny, byddan nhw’n anelu at fuddsoddi mwy yn y sector breifat, megis drwy roi siopau gwag ar ocsiwn, addasu rheolau trwyddedu siopau a bwytai, a chefnogi cynlluniau ar gyfer cael mwy o fannau preswyl yng nghanol y trefi.

Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, byddan nhw’n gweithio gyda chynghorau lleol a Llywodraeth Cymru i benderfynu sut mae’r pedair tref yn elwa o’r cyllid, ond bydd pobol leol yn cael dweud ar sut maen nhw eisiau gwario’r arian hefyd.

‘Penderfyniad cywir’

Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi gwneud y “penderfyniad cywir ar gyfer y tymor hir” wrth beidio canolbwyntio ar y tymor byr, meddai llefarydd yr economi’r Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.

“Bydd pedair tref dros Gymru’n derbyn £80m i gyd efo’i gilydd i gynllunio am y ddeng mlynedd nesaf,” meddai.

“Mae gennym ni gyd uchelgeisiau a syniadau ar sut i wella lle’r ydyn ni’n byw, a bydd yr arian yma’n helpu cymunedau i wneud hynny.”

‘Cyllid yn nwylo pobol leol’

Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd Rishi Sunak fod gwleidyddion wedi tueddu i gymryd trefi’n ganiataol a chanolbwyntio ar ddinasoedd.

“Yn sgil hynny, mae’r stryd fawr yn hanner gwag, canolfannau siopa yn flêr ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn tanseilio llewyrch nifer o drefi ac yn rhwystro pobol rhag cael cyfleoedd – a heb gymryd agwedd newydd, bydd y problemau hyn yn gwaethygu,” meddai.

“Mae ein Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi’n rhoi’r cyllid yn nwylo pobol leol fel eu bod nhw’n gallu buddsoddi yn eu blaenoriaethau, dros gyfnod hir.

“Dyna sut mae codi’r gwastad.”