Mae 80,000 o bensiynwyr ar incwm isel mewn perygl o gael eu gadael heb gefnogaeth yn sgil agenda Rishi Sunak cyn yr etholiad cyffredinol, medd Hywel Williams.
Daw rhybudd Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon yn sgil adroddiadau diweddar gan Sky News y gallai pobol nad ydyn nhw’n derbyn credyd cynhwysol golli’r lwfans tanwydd dros y gaeaf.
Ers Medi 1, fe fu Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru’n dweud nad yw oddeutu 80,000 sy’n gymwys i dderbyn Credyd Pensiwn ddim yn ei dderbyn.
Pe bai’r adroddiadau’n wir, meddai Hywel Williams, byddai galwadau Plaid Cymru am raglen insiwleiddio’r cartref fesul stryd yn dod yn fwy o fater brys.
‘Pryder anferth’
“Mae adroddiadau y gallai Rishi Sunak ddileu lwfans tanwydd y gaeaf ar gyfer pob pensiynwr ond y rheiny sy’n derbyn credyd pensiwn yn bryder anferth,” meddai Hywel Williams, fydd yn rhoi’r gorau i’w swydd yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
“Mae Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru’n amcangyfrif nad yw oddeutu 80,000 o aelwydydd cymwys yn derbyn y credyd pensiwn mae ganddyn nhw hawl i’w dderbyn.
“Golyga hyn y gallai miloedd o’r pensiynwyr tlotaf yng Nghymru ysgwyddo baich peryglus agenda cyn-etholiad ddi-drefn Sunak.
“Mae biliau ynni wedi codi i’r entrychion.
“Os ydi Llywodraeth Cymru wir yn bygwth torri’r gefnogaeth hanfodol hon, yna mae’r angen i drawsnewid y system yn fwy fyth o fater brys, gyda buddsoddiadau ac nid toriadau i effeithlonrwydd ynni.
“Fe fu Plaid Cymru’n galw ers tro am raglen i ôl-osod pob cartref erbyn 2050 er mwyn rhoi hwb i effeithlonrwydd ynni cartrefi.
“Gallai’r fath raglen insiwleiddio gyflwyno 20% o arbedion effeithlonrwydd, gan ostwng biliau miloedd o bobol.
“Mae Llywodraeth yr Alban hefyd wedi cyflwyno Taliad Gwresogi’r Gaeaf i helpu tuag at gostau gwresogi dros y gaeaf.
“Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyfrifoldeb i sicrhau y gall pobol fforddio aros yn gynnes yn eu cartrefi.
“Dylai Rishi Sunak gadw hyn mewn cof.”