Dychmygwch – gwnewch eich gorau – ddau berson yn syrthio i lawr simnai. Daw’r ddau i’r gwaelod yn ddianaf. Mae’r naill yn frwnt, yn barddu i gyd, ond mae’r llall – yn rhyfedd iawn – yn gwbl lân. Pa un o’r ddau sy’n ymolchi?
Cymerwch eiliad neu ddwy i hel meddyliau.
Awn ymlaen at yr ail gwestiwn: Dychmygwch – eto, gwnewch eich gorau – ddau berson yn syrthio lawr simnai. Daw’r ddau i’r gwaelod yn ddianaf. Mae’r naill yn frwnt, yn barddu i gyd, ond mae’r llall – yn rhyfedd iawn – yn gwbl lân. Pa un o’r ddau sy’n ymolchi?
Cewch gyfle i hel meddyliau.
A’r cwestiwn olaf: Dychmygwch – gwnewch eich gorau eto – ddau berson yn syrthio lawr simnai. Daw’r ddau i’r gwaelod yn ddianaf. Mae’r naill yn frwnt, yn barddu i gyd, ond mae’r llall – yn rhyfedd iawn – yn gwbl lân. Pa un o’r ddau sy’n ymolchi?
Cymerwch un cyfle arall i hel meddyliau.
Owain! Nid tri chwestiwn sydd, ond un! Rwyt ti’n gofyn yr un cwestiwn dair gwaith!
Mae’r geiriau’r un fath, ydyn, ond mae’r cwestiwn yn wahanol. Ystyriwch y cyntaf. Pa un o’r ddau sydd yn ymolchi? Yr un brwnt, yr hwn sydd yn barddu i gyd? Nage. Yr un sydd yn lân sydd yn ymolchi. Pam? Wedi cyrraedd gwaelod y simnai, mae’r ddau yn codi a syllu, y naill ar y llall. Mae’r brwnt yn gweld y llall yn lân, ac yn ymfalchïo bod y ddau wedi llwyddo i gyrraedd gwaelod y simnai, nid yn unig yn ddianaf, ond yn gwbl lân! Mae’r glân yn gweld y llall yn frwnt, a chan mai naturiol yw bod yn frwnt wedi syrthio lawr simnai, mae’r glân yn dychmygu ei hun i fod fel y llall – yn frwnt – ac yn mynd o’r herwydd i ymolchi.
Trown at yr ail gwestiwn. Pa un o’r ddau sydd yn ymolchi y tro hwn? Wel, gan fod yr ail gwestiwn yn union yr un fath â’r cyntaf, mae’n rhaid bod yr ateb yr un fath – y glân sydd yn ymolchi. Nage. Er bod y geiriau’r un fath, mae’r broblem yn gwbl wahanol. Y tro hwn, y brwnt sydd yn ymolchi. Mae’r glân yn syllu ar y brwnt, ac yn dweud, “Arswyd! Rhaid bo fi’n frwnt!” Ond wedyn mae’n edrych ar ei ddwylo, ac maen nhw’n lân. Mae’r brwnt yn syllu ar y glân, ac yn dweud, “Arswyd! Syrthio lawr simnai a chyrraedd y gwaelod yn gwbl lân! Rhyfedd o fyd!” Ond wedyn, mae’n edrych ar ei ddwylo ac yn sylweddoli mor frwnt ydyw, ac yn mynd o’r herwydd i ymolchi.
Ymlaen at yr olaf. Pa un o’r ddau sydd yn ymolchi y tro hwn? Y brwnt, wrth gwrs! Nage. Yr un glân, felly! Nage. Yr ateb i’r cwestiwn yw bod y cwestiwn yn wyrgam! Sut yn y byd allai dau berson syrthio lawr simnai, a’r naill yn cyrraedd y gwaelod yn lân a’r llall yn frwnt?!
Os ydym yn mentro ymholi o gwbl am ein byw, dw i’n credu mai’r un cwestiwn yn y bôn sydd gan bawb: Beth ydwyf fi? Plentyn i Dduw neu’n ddim byd amgenach na swp o esgyrn mewn gwisg o gnawd? (‘Yr Esgyrn Hyn’ gan T.H. Parry Williams, 1887-1975; Cerddi 1931).
Yr un yw’r cwestiwn, ond mae eithafion ein gwahanol atebion i’r un cwestiwn hwnnw yn amlwg iawn heddiw. Mae sôn cyson am ein cyfnod fel un â’i gwestiynau yn aneirif a’i atebion yn brin. Nid felly mae o gwbl. Cyfnod yw hwn â’i atebion yn aneirif. Cafodd y cwestiwn ei gladdu o dan bentwr o atebion! Saif pob ateb ar ei sodlau’n gadarn, gan herio pob un ateb arall.
Er mai’n groes i’r graen yw hyn i lawer un, awgrymaf fod y gofyn didwyll yn bwysicach na chanfod ateb terfynol. Mae chwilio am ateb terfynol i’r cwestiwn ‘Beth ydwyf fi?’ – ateb i roi taw terfynol ar bob ateb arall, ateb i ddileu’r cwestiwn – yn orchwyl tebyg i chwilio am y sach o aur lle derfydd yr enfys. Mae’n wir fod cwm go ddwfn rhwng rhai o’r gwahanol atebion â’i gilydd, ond maen nhw’n perthyn er hynny i’r un gadwyn o fynyddoedd, a’r cymoedd yn tynnu’r pegynau’n gliriach i’r golwg ac yn harddu’r olygfa i bawb.
Yr ateb i anghydfod ein dyddiau yw llai o gwyno, llai o grintach, llai o ymgecru di-fudd am y ffordd mae eraill yn dewis ateb y cwestiwn! Cydio’n dynnach yn y cwestiwn sydd raid; er pwysiced yw darganfod yr Ateb Mawr, nid yw’n ddigon! Cofiwn, ar awr ei dröedigaeth, mai cwestiwn oedd ar wefus Paul: “Pwy wyt ti, Arglwydd?” (Actau 9:5) Y sawl a gydia’n dynn yn y cwestiwn fydd yn cael gwir afael ar nerth yr oesol werthoedd.