Mae Cefin Campbell, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn arwain galwadau brys yn y Senedd i sicrhau bod y cyllid ar gyfer y Fflecsi Bwcabus yn cael ei adfer.
Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad y bydd y gwasanaeth yn dod i ben ar Hydref 31.
Mae’r fflecsi Bwcabus (Bwcabus gynt) wedi bod yn weithredol ers 14 o flynyddoedd, gan wasanaethu rhannau gwledig o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Mae’n darparu gwasanaeth hanfodol i lawer o drigolion sydd heb fynediad i geir neu’r prif rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cyrraedd pentrefi a threfi eraill ar gyfer gwaith, siopa ac apwyntiadau meddygol.
Roedd y gwasanaeth yn cael ei ariannu’n flaenorol gan gyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig, ond ers hynny mae wedi’i gyllido’n llawn drwy Lywodraeth Cymru.
Fel rhan o’r trefniant ariannu, sicrhaodd Llywodraeth Cymru fysiau newydd ar gyfer y gwasanaeth mor ddiweddar â mis Gorffennaf, ac roedd lefel o optimistiaeth y byddai’r gwasanaeth yn parhau i wasanaethu cymunedau gwledig am y dyfodol.
Ond daeth cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf y bydd y gwasanaeth yn dod i ben ar ddiwrnod olaf mis Hydref.
Cryn bryder
Mae’r cyhoeddiad wedi achosi cryn bryder o fewn cymunedau gwledig, ac mae deiseb gafodd ei lansio’r wythnos hon yn galw am achub y gwasanaeth eisoes wedi cyrraedd dros 800 o lofnodion.
Wrth siarad yn y Senedd ar ôl iddo gyflwyno cwestiwn brys, anogodd Cefin Campbell Lywodraeth Cymru i ailystyried eu penderfyniad.
“Mae nifer fawr o gymunedau ledled Ceredigion, shir Gâr a shir Benfro wedi syfrdanu gan y cyhoeddiad bod cyllid y Llywodraeth ar gyfer y Bwcabus yn dod i ben, a bod y gwasanaeth yn gorffen ym mis Hydref,” meddai.
“Ers blynyddoedd, mae’r gwasanaeth unigryw hwn wedi bod yn adnodd amhrisiadwy i gymaint o drigolion ar draws y gorllewin.
“A dweud y gwir, mae’r gwasanaeth yn fwy na bws yn unig; mewn sawl achos, dyma’r unig ffordd mae pobol yn gallu cyrraedd apwyntiadau meddygol, mynd i siopa a chymdeithasu.
“Eironi pethau yw ein bod ni’n clywed y Llywodraeth yn sôn dro ar ôl tro am bwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus i gysylltu cymunedau â’i gilydd ac effaith bositif hynny ar yr amgylchedd.
“Ond beth sydd yn digwydd yw bod y gwasanaethau hanfodol hyn yn cael eu torri, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
“Felly, a gaf i erfyn arnoch chi i weithio’n galed iawn i sicrhau bod y gwasanaeth yma yn cael ei ailsefydlu, a rhoi sicrwydd hirdymor i’r cynllun pwysig hwn?”
Pryder gwleidyddion yng Ngheredigion
Ynghynt yr wythnos hon, mynegodd gwleidyddion yng Ngheredgion eu pryderon hefyd.
“Mae’n hynod o siomedig i glywed fod y gwasanaeth Bwcabws yn dod i ben,” meddai Aelod Seneddol Plaid Cymru dros y sir.
“Tra bod niferoedd teithwyr efallai’n fach ar bapur, y gwir yw bod y trigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth yma yn hollol ddibynnol ar y gwasanaeth yng Ngheredigion.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu’r cyllid sydd ganddyn nhw i sicrhau nad ydym yn atal ein trigolion rhag gallu gwneud y pethau hanfodol yn eu bywydau, fel teithio i’r gwaith, siopa bwyd a chasglu meddyginiaethau.”
Yn ôl Elin Jones, mae colli’r gwasanaeth yn “ergyd galed” i deithwyr sy’n llwyr ddibynnol ar y gwasanaeth, “yn enwedig i’r rheini sydd heb unrhyw ffordd arall o deithio”.
“I nifer, y Bwcabws yw’r unig ffordd sydd ganddynt i allu cyrraedd gwasanaethau bws eraill, felly mae angen sicrhau nad ydym yn tanseilio ei bwysigrwydd yma yng Ngheredigion.
“Mae’n hanfodol nawr fod yr holl asiantaethau yn dod at ei gilydd i ymchwilio i bob datrysiad posibl er mwyn ceisio arbed y gwasanaeth amhrisiadwy yma.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Wrth ymateb i gwestiwn Cefin Campbell, dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, fod yn “ddrwg iawn” ganddo glywed bod y gwasanaeth yn dod i ben.
“Er gwaethaf addewidion na fyddai Cymru ar ei cholled ar ôl Brexit, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi methu â disodli cyllid ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth wledig a gefnogwyd yn flaenorol gan yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.
“Felly, ni allwn barhau i gefnogi Bwcabus, ond rydym yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru a’r awdurdodau lleol i archwilio opsiynau eraill.”