Wrth i aelodau Plaid Cymru gyfarfod am eu cynhadledd flynyddol yn Aberystwyth yr wythnos nesaf, mae’r flwyddyn nesaf yn argoeli i fod yn llawn heriau iddyn nhw ac i’w harweinydd newydd, medd colofnydd gwleidyddol golwg360…
Ar ôl ychydig dros dri mis yn ei swydd, bydd Rhun ap Iorwerth yn annerch aelodau Plaid Cymru fel arweinydd am y tro cyntaf yn eu cynhadledd ddydd Gwener (Hydref 6).
Gallwn ddisgwyl y bydd yn cael croeso brwd ganddyn nhw, a chryn dipyn o glod hefyd am ddod â rhywfaint o sefydlogrwydd i’r blaid ar ôl misoedd hynod gythryblus.
Ers iddo gael ei ethol, mae’n ymddangos hefyd ei fod yn deall yn glir rai o’r heriau sy’n wynebu Plaid Cymru dros y flwyddyn nesaf. Mae eisoes wedi dangos ei fod yn sylweddoli’r angen i gadw traed ei aelodau ar y ddaear, a gallwn ddisgwyl y bydd hyn yn amlwg yn ei araith hefyd.
Does dim amheuaeth y bydd yr etholiad i senedd San Steffan rywbryd y flwyddyn nesaf am fod yn un o’r rhai mwyaf anodd i Blaid Cymru ers degawdau. Mae’r lleihad yn nifer yr etholaethau am olygu ei bod bron yn sicr o golli Aelodau Seneddol. Dim ond dwy o’r seddau newydd sy’n cyfateb i’w hetholaethau presennol y gellir eu hystyried fel rhai rhesymol ddiogel. Gyda seddau Dwyfor Meirionnydd ac Arfon wedi eu cyfuno i bob pwrpas, bydd nifer ASau Plaid Cymru Gwynedd i lawr o ddau i un, a gallant ddisgwyl dal gafael hefyd ar sedd newydd Ceredigion a fydd bellach yn cynnwys rhannau o ogledd Sir Benfro yn ogystal.
Gallai sedd newydd Caerfyrddin fod wedi bod yn anodd iddyn nhw p’run bynnag, ac mae rhwyg chwerw wedi bod ymysg aelodau’r blaid yn lleol yn sicr o wneud pethau’n llawer gwaeth – heb sôn am y posibilrwydd y gall yr AS presennol, Jonathan Edwards, sefyll fel ymgeisydd annibynnol.
Gall yn hawdd fod felly mai unig obaith Plaid Cymru o osgoi lleihad sylweddol yn ei chynrychiolaeth fydd adennill Môn. Mae anwadalwch gwleidyddiaeth yr ynys dros y blynyddoedd yn sicr am olygu na ellir cymryd hyn yn ganiataol. Ac yntau wedi cynrychioli’r ynys gyda mwyafrifoedd mawr ers cael ei ethol 10 mlynedd yn ôl, bydd adennill etholaeth seneddol Môn yn sicr o fod yn her bersonol i Rhun ap Iorwerth. Ar y naill law, bydd yn benderfynol o ddangos ymrwymiad llwyr i sicrhau bod Plaid Cymru’n adennill y sedd. Ar y llaw arall, ni all ychwaith fforddio mentro’i holl hygrededd gwleidyddol ar gyflawni hyn.
Cadw cydbwysedd
Mae’n ymddangos fod Rhun ap Iorwerth wedi ceisio cadw cydbwysedd tebyg wrth ymdrin ag amcanion cyfansoddiadol Plaid Cymru. Mae’n debygol y bydd wedi cadw rhai o gefnogwyr craidd ei blaid yn hapus wrth siarad yn rali Yes Cymru ym Mangor yr wythnos ddiwethaf. Ar y llaw arall, mae hefyd wedi ei gwneud yn glir ei fod yn cefnu ar addewid Plaid Cymru yn etholiad 2021 y byddai’n galw refferendwm ar annibyniaeth heb bai’n ffurfio llywodraeth. Mater o synnwyr cyffredin oedd hyn, oherwydd mae’n anodd iawn gweld pwy fyddai eisiau refferendwm o’r fath yn y lle cyntaf.
Gallai rhai fod yn disgwyl y gallai’r hyn sy’n ymddangos fel cynnydd yn y gefnogaeth i annibyniaeth fod yn ffafriol i Blaid Cymru. Does dim arwydd o gwbl yn yr arolygon barn fodd bynnag o unrhyw gyfatebiaeth yn y gefnogaeth i annibyniaeth ar y naill law ac i Blaid Cymru ar y llall. Does dim arwydd chwaith fod Plaid Cymru’n gallu ennyn yr math o frwdfrydedd ag mae ymgyrchoedd Yes Cymru. Go brin y bydd llawer o’r miloedd sy’n gorymdeithio yn ralïau Yes Cymru i’w gweld yn ymgyrchu o ddrws i ddrws pan ddaw etholiad. Gellir dychmygu llawer o wleidyddion Plaid Cymru yn gresynu at hyn. Ar y llaw arall, go brin y byddai’n llesol i achos hunanlywodraeth i Gymru gael ei gyplysu’n ormod ag un blaid.
Yn y pen draw, plaid sy’n cefnogi annibyniaeth i Gymru ydi Plaid Cymru, nid plaid sydd ag unrhyw obaith o gyflawni annibyniaeth i Gymru ar ei phen ei hun.
Mae’r rhan fwyaf o wleidyddion y blaid yn sylweddoli y byddai sicrhau annibyniaeth yn dasg lawer mwy anodd a chymhleth nag mae’n ymddangos ar yr olwg gyntaf. Dyna pam eu bod yn sylweddoli’r angen iddyn nhw gadw traed eu haelodau ar y ddaear yn hyn o beth. Does ond rhaid edrych i’r Alban, lle mae’r SNP wedi codi gobeithion ei haelodau’n ormodol dros y blynyddoedd diwethaf. Er eu llwyddiant etholiadol wrth lywodraethu’r wlad ers dros bymtheg mlynedd, ac ennill mwyafrif llethol o etholaethau San Steffan, prin fod yr SNP wedi gwireddu llawer o’u hamcanion cyfansoddiadol dros y cyfnod hwn.
Trefn bleidleisio gwbl ddiffygiol
Yn y cyfamser, gallai’r cynlluniau ar gyfer trefn bleidleisio newydd Senedd Cymru achosi cryn drafferthion i Blaid Cymru dros y misoedd nesaf.
Er y bydd cefnogaeth unfryd i’r egwyddor o ehangu nifer yr aelodau i 96, does dim amheuaeth fod y drefn bleidleisio arfaethedig ar gyfer hyn yn ddifrifol o ddiffygiol.Yn hytrach na phleidleisio’n uniongyrchol dros aelodau, yr unig ddewis y bydd etholwyr yn ei gael fydd o blith rhestrau caeedig gan y pleidiau. Mi fydd Cymru’n cael ei rhannu’n 16 o ranbarthau, gyda chwe aelod yn cael eu dewis trwy bleidlais gyfrannol ym mhob un.
Mae’n ymddangos, felly, y bydd gan etholwyr un bleidlais yn unig – i ddewis chwech o aelodau. Does dim synnwyr o gwbl yn hyn gan y bydd yn gyfystyr â rhagdybio – heb unrhyw sail – y bydd pawb a fydd wedi pleidleisio dros blaid benodol yn dymuno rhoi chwe phleidlais i’r blaid honno.
Eisoes, mae llawer o bobl wedi tynnu sylw at yr anfantais amlwg y bydd rhestrau caëedig yn arwain at ddewis gwleidyddion ufudd a theyrngar i’w plaid ac y bydd yn mygu annibyniaeth barn yn y senedd.
Mae’n deg dweud nad dewis Plaid Cymru oedd y drefn hon, a dadl llawer o’i gwleidyddion yw mai hyn oedd y pris a oedd yn rhaid ei dalu i gael cefnogaeth y Blaid Lafur i allu cynyddu nifer yr aelodau. Eto i gyd, mae’n ymddangos fod amryw ohonyn nhw bellach yn teimlo peth cywilydd o fod wedi ildio i’r Blaid Lafur trwy gytuno’n rhy rwydd. Mae’r cynlluniau presennol mor wael fel eu bod mewn perygl o ddwyn anfri ar ddemocratiaeth Cymru.
Byddai’n ddoeth i’r arweinydd newydd wneud popeth yn ei allu i ddad-wneud penderfyniad ei ragflaenydd i gytuno i drefn sydd mor annerbyniol. Fel arall, gall fod yn wynebu gwrthryfel ymysg yr aelodau ar y mater a all beryglu dyfodol y cytundeb rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur.
Hunllef gorsafoedd niwclear
Unwaith eto, mae hunllef gorsafoedd niwclear wedi codi ei ben wythnos yma, pwnc wedi achosi dadlau chwerw ym Mhlaid Cymru ar hyd y blynyddoedd. Daeth cyhoeddiad gan y Prif Weinidog Rishi Sunak ddydd Gwener y bydd Wylfa yn cael ei chodi i ryw fath o restr uwch o safleoedd tebygol yn fuan. Faint o arwyddocâd gwirioneddol sydd i’r cyhoeddiad sydd gwestiwn arall gwrs, ac mae’n tanlinellu pa mor gwbl ddiymadferth ydi Cymru gyda materion o’r fath.
Gallwn fod yn sicr fod barn aelodau a chefnogwyr Plaid Cymru wedi caledu fwyfwy yn erbyn ynni niwclear bellach. Mae’n weddol amlwg fod nifer cynyddol yn anfodlon gyda’r math o amwysedd a gafwyd ar y pwnc dros y blynyddoedd – a hynny’n bennaf gan fod y sefyllfa wedi newid.
Y polisi swyddogol oedd amddiffyn swyddi gorsafoedd niwclear a oedd yn bod eisoes, ond gwrthwynebu codi rhai newydd. Roedd hyn yn gadael y drws yn gil-agored i Ieuan Wyn Jones gefnogi gweithwyr Wylfa pan oedd yn arweinydd Plaid Cymru ac yn aelod dros Fôn. Erbyn hyn, mae unrhyw gynlluniau niwclear – boed hynny yn y Wylfa neu Drawsfynydd – yn golygu o hanfod orsafoedd o’r newydd ac felly ni fydd unrhyw amwysedd yn debygol o gael ei oddef bellach.
Mae hefyd yn digwydd ar adeg pan ddaw’n fwyfwy amlwg o hyd mai ynni adnewyddadwy ydi’r unig ffordd ymlaen ac nad ydi ynni niwclear yn gwneud dim synnwyr o gwbl.
Daeth datganiad diweddaraf Rishi Sunak ddyddiau yn unig ar ôl iddo lastwreiddio ei gynlluniau datgarboneiddio. Gohirio hyn ymhellach fydd unrhyw gynlluniau i godi gorsafoedd niwclear – o gofio’r holl flynyddoedd y bydden nhw’n eu cymryd i’w codi, a’r holl lygredd a fyddai’n cael ei achosi gan y broses o’u hadeiladu.
Mae methiant truenus llywodraeth Prydain gyda phob mathau o gynlluniau adeiladu uchelgeisiol o’r fath yn cynnig gôl agored i Blaid Cymru eu dirmygu a’u gwawdio. Does ond angen ar yr hyn sy’n digwydd gyda HS2 neu Hinkley C i weld ffolineb dibynnu ar gynlluniau mawr am swyddi. Ar sail profiad y blynyddoedd diwethaf, mae’n gwbl bosibl mai’r hyn a allai gael ei chodi ym Môn fyddai tri chwarter atomfa a fyddai’n cael ei gadael ar ôl degawdau o wastraffu arian a rheibio’r amgylchedd wrth ei chodi.
Ar ben hyn, lle bo Plaid Cymru yn y cwestiwn, mae gorsfaoedd niwclear fel hyn yn gwbl anghydnaws hefyd ag unrhyw ddyheadau am annibyniaeth i Gymru. Yn hytrach na chwilio am atebion i’n hanghenion ynni ein hunain, yr hyn mae gorsafoedd niwclear yn ei olygu ydi’n gwneud ni’n ddibynnol ar anghenion Llywodraeth Prydain. Go brin mai’r hyn sydd gan gefnogwyr annibyniaeth mewn golwg ydi clymu Cymru am ddegawdau i ddod i ofynion peiriant niwclear a milwrol y wladwriaeth Brydeinig. Mi fyddai ganddyn nhw bob cyfiawnhad felly dros amau gwir ymrwymiad i annibyniaeth i Gymru mewn unrhyw blaid a fyddai’n dal i gyflawnhau ynni niwclear.
Ac yn bwysicach na dim, wrth gwrs, mae’r cwestiwn o ddiogelwch.
Tybed nad yw gwleidyddion yn gyffredinol mewn perygl o gamddarllen barn y cyhoedd, a gor-amcangyfrif cefnogaeth y cyhoedd i gael gorafoedd niwclear ar garreg eu drws? Yn ôl aelodau Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan, mae’r methiant i godi atomfa yn y Wylfa wedi “gadael creithiau ar y gymuned leol”. Byddai’n werth i’r gwleidyddion hyn gofio eu bod yn greithiau y byddai cymunedau Fukushima wedi bod yn falch iawn o’u cael.