Mae Hefin David, Aelod Llafur o’r Senedd, yn dweud ei bod yn “annheg” targedu unigolion gyda bygythiadau yn sgil y polisi cyflymder 20m.y.a.
Daw ei sylwadau yn dilyn cadarnhad fod yr heddlu’n ymchwilio i fygythiadau yn erbyn y Prif Weinidog Mark Drakeford.
Dywed Hefin David hefyd ei fod yn anghytuno â’r bleidlais o ddiffyg hyfer yn y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, gan gyfeirio ati fel un “hollol hurt”.
“Yn sicr fe wnaeth cynnig pleidlais o ddiffyg hyder yn Lee Waters [ychwanegu at y bygythiadau],” meddai wrth golwg360.
“Rwy’n credu mai’r camgymeriad mae [y Ceidwadwyr Cymreig] wedi’i wneud drwy gydol eu hymgyrchu yw dwysáu’r sefyllfa i’r pwynt lle mae Lee Waters yn benodol yn cael ei feio amdano.
“Yn y Llywodraeth, mae gennych chi gydgyfrifoldeb.”
‘Hollol hurt’
Er bod pleidlais o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog yn rywbeth sydd wedi digwydd cyn hyn, dydy Hefin David ddim deall pam fod gweinidogion wedi cael eu rhoi yn yr un sefyllfa.
“Rydw i’n meddwl, os ydych chi’n teimlo nad yw’r Prif Weinidog yn cyflawni ei ddyletswyddau, yna gallwch chi gynnal pleidlais o ddiffyg hyder,” meddai.
“Mae hynny wedi digwydd o’r blaen.
“Ond mae cael dau gynnig o ddiffyg hyder, un yn y Gweinidog Iechyd ac un arall yn y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, yn hollol hurt.
“Nid yw’n rywbeth sy’n cael ei wneud yn San Steffan, a’r cyfan mae wedi’i wneud yw rhoi Lee yn y fan a’r lle ac achosi problemau personol iddo, sy’n annheg.”
Pryder arall ganddo yw’r ffaith nad yw Lee Waters wedi arfer â chael ei fygwth ar y fath raddfa, a bod nifer y bygythiadau sydd wedi’u hanelu at y Prif Weinidog hefyd wedi bod yn “anghredadwy”.
“Mae’r Prif Weinidog wedi hen arfer â bod ar y rheng flaen drwy Covid,” meddai.
“Ond mae wedi derbyn bygythiadau anhygoel sydd wedi arwain at ganslo rhai digwyddiadau oherwydd y cyngor y bydden nhw’n anodd eu plismona a’u cadw’n ddiogel.
“Dydy’r Dirprwy Weinidog ddim wedi arfer â’r lefel honno o fygythiadau.
“Roedd sôn am brotestiadau y tu allan i’w dŷ, ac rydw i wedi gweld bygythiadau uniongyrchol ar-lein i’w ddiogelwch, sy’n fygythiol iawn.”
Systemau diogelwch
Yn ôl Hefin David, mae systemau diogelwch wedi’u gosod yng nghartrefi gweinidogion trwy trwy’r Senedd, ac mae’n rhaid bod yn wyliadwrus rhag rhoi cyfeiriadau personol i neb.
“Mae gen i gamerâu diogelwch wrth ochr fy nhŷ, fy ngardd gefn a blaen fy nhŷ,” meddai.
“Rwy’ wedi cael cwpwl o bobl yn anfon e-bost ataf yn gofyn am fy nghyfeiriad, ond rwy’ wedi dweud mai fy swyddfa etholaeth yw’r cyfeiriad i’w ddefnyddio ar gyfer gohebiaeth.
“Mae’r bygythiadau dw i wedi’u cael wedi bod yn llawer is na rhai Lee Waters a Mark Drakeford, ond maen nhw wedi bod yn weddol sarhaus, ond nid yn fygythiad uniongyrchol i’m diogelwch.”
Er y bygythiadau, mae’n parhau i gefnogi’r polisi 20 m.y.a. ac yn credu ei bod yn bwysig fod pobol yn deall bod eithriadau i’r polisi, ac nad terfyn ‘blanced’ yw e.
“Mewn gwirionedd ychydig iawn o barthau 20 m.y.a. estynedig sydd yn fy etholaeth i o Gaerffili,” meddai.
“Maen nhw y tu allan i dai, neu ysgolion neu ysbytai neu lefydd fel yna.
“Os ydych chi’n teimlo nad yw’r 20 m.y.a. ger eich cartref yn addas, yna cysylltwch â ni ac fe gawn ni weld beth mae’r cyngor yn ei ddweud amdano.”