Mae CND Cymru, y mudiad sy’n ymgyrchu tros ddiarfogi niwclear, wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o droi materion yn ymwneud â’r hinsawdd yn “bêl-droed wleidyddol”.
Dywed Dylan Lewis-Rowlands, eu hysgrifennydd cenedlaethol, fod y Prif Weinidog Rishi Sunak yn gwneud yr un addewidion dro ar ôl tro, ond nad ydyn nhw byth yn cael eu gwireddu.
Daw hyn wedi i Rishi Sunak awgrymu mai Wylfa fydd cartref gorsaf ynni niwclear nesaf y Deyrnas Unedig.
Mewn cyfweliad yng nghynhadledd y Ceidwadwyr, dywedodd na allai ddatgelu lle fydd y safle ar hyn o bryd, ond fod Wylfa yn ticio’r bocsys.
“Bob tro mae ynni niwclear a Chymru’n dod lan, mae o bob tro’n Wylfa a Trawsfynydd, ac mae o’n cwympo trwyddo dro ar ôl tro,” meddai Dylan Lewis-Rowlands wrth golwg360.
“Sut ydyn ni’n gwybod y bydd y Prif Weinidog yn cadw ei air pan mae wedi mynd yn ôl ar lawer o’i ymrwymiadau sero net?
“Mae hyd yn oed y Wales Select Affairs Committee, oedd yn gwthio ynni niwclear yng Nghymru, wedi dweud bod cymunedau’n cael eu gadael ar ôl.
“Ydi hyn yn addewid arall sydd jest yn mynd i gwympo pan dydy o ddim yn iawn iddyn nhw ddim mwy?”
Ffocws ar ynni niwclear yn “drist”
Dywed Dylan Lewis-Rowlands ei fod yn credu bod sylwadau Rishi Sunak wedi’u gwneud er mwyn tynnu sylw oddi ar ei sylwadau sero net dadleuol yn gynharach yn y mis.
“Am y tro cyntaf, mae’r hinsawdd wedi cael ei weld fel pêl-droed wleidyddol sy’n cael ei gwthio ’nôl ac ymlaen; mae jest yn swnio fel gêm newydd.”
Yn hytrach na bod yn ddibynnol ar ynni niwclear, mae Dylan Lewis-Rowlands eisiau gweld Cymru’n dod yn ganolfan ar raddfa fyd-eang o ran creu ac ymchwilio i ynni adnewyddadwy.
“Mae’r ffaith bod llywodraethau’r Deyrnas Gyfunol, ond hefyd Cymru, yn ffocysu ar niwclear ychydig bach yn drist i ni,” meddai.
“Dyna yw technoleg y dyfodol; technoleg y gorffennol ydy niwclear.
“Beth ydyn ni wedi ei weld ydi bod yna broblemau ar ôl problemau.
“Hyd yn oed pan mae niwclear yn gweithio, dydy o ddim.
“Dw i’n meddwl yn ystod pum mlynedd diwethaf Wylfa, roedd o offline 50% o’r amser.”
Technoleg y dyfodol?
Dywed Rishi Sunak ei fod e eisiau i’r orsaf ynni niwclear nesaf fod yn rhywle all gynnal adweithyddion modiwlaidd bach, ynghyd â safle niwclear mawr.
Yn groes i Dylan Lewis-Rowlands, disgrifiodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig adweithyddion modiwlaidd bach fel “technoleg y dyfodol”, gan eu bod nhw’n llai ac yn rhatach nag adweithyddion ymholltiad traddodiadol.
“Nawr, mae Wylfa yn safle gwych oherwydd mae ganddo’r potensial i wneud pŵer giga-wat, ond gallai hefyd wneud adweithyddion modiwlaidd bach,” meddai Rishi Sunak.
“Heb fynd i ormod o fanylder, yn ddiweddarach eleni byddwn yn cyhoeddi’r safleoedd ar gyfer cam nesaf ein proses SMR ar adweithyddion modiwlaidd bach.
“Alla i ddim dweud llawer mwy cyn hynny, ond yn amlwg mae Wylfa yn rhywle allai wneud y ddau.”
Daw hyn wedi i’r Strategaeth Diogelwch Ynni, gafodd ei chyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y llynedd, nodi Wylfa fel un o’r lleoliadau sy’n debygol o gael ei chymeradwyo ar gyfer datblygiad newydd.
Mae Janet Finch-Saunders, llefarydd newid hinsawdd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi croesawu’r posibilrwydd.
“Mae’r Aelod Seneddol lleol Virginia Crosbie a minnau wedi bod yn hyrwyddo safle’r Wylfa yng Ngogledd Cymru ers peth amser, fe wnes i hyd yn oed ei godi yn siambr y Senedd eto’r wythnos hon,” meddai.
“Rwy’n hynod falch bod Wylfa yn cael ei ystyried o ddifrif ar gyfer gorsaf ynni niwclear gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.”