Fydd y cynlluniau ar gyfer corff cyhoeddus i drafod datganoli darlledu ddim yn cael eu gwireddu.
Sefydlu’r corff oedd un o brif argymhellion panel o arbenigwyr, wrth iddyn nhw edrych dros yr haf ar sefyllfa darlledu yng Nghymru.
Cafodd sefydlu’r corff ei argymell wedi i’r panel godi pryderon nad oedd llawer yn cael ei wneud i ddiogelu dyfodol darlledu yn y wlad.
Dywedodd y panel fod y rhan fwyaf o’r rheiny sy’n gwylio’r teledu dros 65 mlwydd oed, a bod nifer y rheiny sy’n gwylio’r teledu wedi gostwng gan 37% dros y degawd diwethaf.
Mae hyn yn codi pryderon ynglŷn â sut y bydd darlledu’n edrych ymhen degawd arall.
Roedd Plaid Cymru wedi cefnogi’r syniad o sefydlu’r corff, gan ddweud ei fod yn gyfle i gryfhau democratiaeth yng Nghymru.
‘Siop siarad genedlaetholgar’
Mae Tom Giffard, llefarydd diwylliant, twristiaeth a chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig, yn un sydd wedi croesawu’r newyddion na fydd y cynlluniau’n cael eu gwireddu.
“Rwy’n croesawu’r newyddion na fydd siop siarad genedlaetholgar Llafur a Phlaid bellach yn tynnu sylw oddi ar flaenoriaethau pobl Cymru, o ystyried nad yw’r maes hwn wedi’i ddatganoli i’r Llywodraeth Lafur,” meddai.
“Rwy’n falch na fydd yr arian a glustnodwyd yn flaenorol bellach yn cael ei seiffon o’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru wrth i Gymru sy’n cael ei rhedeg gan Lafur barhau i ddioddef gyda’r amseroedd aros hiraf yn y Deyrnas Unedig, gyda dros 27,000 yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth.
“Byddai’r Llywodraeth Lafur yn gwneud yn dda i gydnabod y pwysau ariannol y maent yn ei achosi a chanslo eu llu o brosiectau oferedd costus eraill o’u cyfyngiadau 20m.y.a. cyffredinol i gynllun £120m i anfon 36 o wleidyddion eraill i Fae Caerdydd.”
Ei brif bryder oedd y gost o £700,000 y flwyddyn fyddai ynghlwm â’r panel.
Darlledu heb ei ddatganoli
Gan nad yw darlledu wedi’i ddatganoli, mae gorsafoedd teledu Cymru – gan gynnwys S4C, ITV a BBC – yn dod o dan gyfrifoldebau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Ar hyn o bryd, does dim corff sy’n unigryw i Gymru yn edrych ar sut i ddatblygu’r maes.
Mae Plaid Cymru eisoes wedi cefnogi datganoli darlledu trwy ddadlau y byddai’n rhoi llais cryfach i Gymru o fewn y byd cyfryngau ac yn galluogi darpariaeth fwy eang o raglenni Cymraeg.
Yn ogystal, dywed Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru, nad yw datganoli darlledu yn amhosib.
Yn dilyn y newyddion, dywedodd llefarydd o ran Llywodraeth Cymru nad yw eu barn ar y mater wedi newid, a’u bod nhw’n “parhau i ystyried canfyddiadau adroddiad y panel o arbenigwyr”.
Tryloywder
Yn y cyfamser, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am dryloywder.
Dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi ymateb i’r adroddiad eto.
“Mae cydnabyddiaeth bod y gyfundrefn ddarlledu bresennol yn hollol annigonol i ddibenion Cymru ers datganoli, ac roedd adroddiad y panel yn cynnig gweledigaeth gadarnhaol a thrywydd pendant ar gyfer dyfodol darlledu a’r cyfryngau yn ein gwlad,” meddai Carl Morris, cadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol y Gymdeithas.
“Mae’n anodd gennym gredu felly y byddai’r Llywodraeth am anwybyddu prif argymhelliad y panel, a gafodd ei groesawu pan gyhoeddwyd yr adroddiad.
“Mae angen tryloywder gan y Llywodraeth ar fater mor bwysig – galwn ar y Dirprwy Weinidog Dawn Bowden i wneud datganiad ar y mater ar fyrder.”