Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £20m o gyllid ychwanegol er mwyn gwella’r ddarpariaeth addysg ar gyfer plant Cymraeg sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Bwriad y cyllid, fydd yn cael ei ddyrannu ar gyfer 2023-24, yw gwneud amgylcheddau dysgu’n fwy cynhwysol, creu ardaloedd tawel neu synhwyraidd, ac uwchraddio offer.
Bydd hefyd yn anelu i wella’r ddarpariaeth addysg anghenion ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae hyn yn bryder oedd eisoes wedi ei godi gan lefarydd cyfiawnder cymdeithasol Plaid Cymru mewn sgwrs gyda golwg360.
“Yr hyn sy’n fy mhryderu i ydi ei fod o’n loteri côd post ar y funud o ran y gefnogaeth sydd ar gael,” meddai Heledd Fychan.
“Mae yna rieni sy’n gorfod un ai anfon eu plant i ysgolion Saesneg neu sydd wedi newid iaith yr aelwyd gan fod y gefnogaeth ddim ar gael i’w plant yn y Gymraeg.
“Dim ots lle yng Nghymru ydych chi, mi ddylech chi allu cael mynediad i system addysg yn y Gymraeg neu Saesneg sy’n mynd i gefnogi datblygiad plentyn neu berson ifanc.”
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud eu bod nhw’n croesawu adroddiad Estyn.
Yn ôl Laura Anne Jones, llefarydd addysg y blaid, mae’n “hanfodol bwysig” nad oes yna’r un dysgwr yn “colli allan ar y gofal a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw”.
Mae’n dweud bod yr arolwg yn “gam positif i sicrhau nad oes yna ddisgyblion yn cael eu gadael ar ôl”, gan annog Llywodraeth Cymru i weithredu cyn gynted â phosib i osgoi anfantais i unrhyw ddisgybl ac er mwyn sicrhau bod ysgolion yn derbyn cyllid.
Gwneud gwahaniaeth yng Nghaerfyrddin
Cyhoeddodd Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, y cyllid ychwanegol yn ystod ymweliad ag Ysgol y Bedol yn Sir Gaerfyrddin.
Yn 2022-23, cafodd yr ysgol grant o £120,000 a chafodd yr arian ei ddefnyddio i ddatblygu ystafell synhwyraidd a dwy ystafell ddosbarth ag offer ar gyfer disgyblion ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth.
Dywed Gethin Richards, Pennaeth Ysgol y Bedol, fod yr arian wedi galluogi’r disgyblion i gael eu haddysgu mewn amgylchedd cynhwysol ble gallent ddatblygu eu hemosiynau.
“Mewn cyfnod byr, mae’r disgyblion wedi ymgartrefu yn y dosbarthiadau newydd ac wedi gwneud cynnydd enfawr o ran eu datblygiad,” meddai.
“Mae’r ystafell synhwyraidd yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion ymlacio, ac mae’r ystafelloedd addysgu yn diwallu anghenion disgyblion ag awtistiaeth.
“Mae’r adnodd hefyd yn ein galluogi i gynnig arbenigedd a darpariaeth arbenigol i ddisgyblion ag awtistiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg – sy’n gwbl hanfodol i deuluoedd a phlant Cymraeg eu hiaith yn yr ardal.”
Daw’r buddsoddiad fel rhan o waith diwygio addysg yng Nghymru, sy’n anelu i fynd i’r afael â’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.
Awdurdodau Lleol fydd yn gyfrifol am benderfynu ar ba welliannau sydd eu hangen ar ysgolion ac ym mha leoliadau.
“Bydd y buddsoddiad hwn o £20m yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddysgwyr anabl, a’r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol, drwy sicrhau bod ein hysgolion yn hygyrch, a bod ganddyn nhw’r cyfleusterau i gefnogi dysgu cynhwysol,” meddai Jeremy Miles.
“Mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu mynediad i addysg o ansawdd uchel fel y gallan nhw gyflawni eu potensial.”