Mae Liz Saville Roberts wedi cyhuddo Aelod Seneddol Ceidwadol o ddangos “diffyg parch” at Gymru.
Daw hyn ar ôl i Andrew Griffith alw’r wlad yn “dalaith”.
Daeth sylwadau Ysgrifennydd Economaidd y Trysorlys mewn cyfweliad ag Anna Jones ar Sky News, wrth drafod y terfyn cyflymder newydd o 20m.y.a.
“Dydy mesur blanced ddim yn aml yn syniad da,” meddai.
“Os yw hynny’n debyg i’r hyn rydyn ni wedi’i weld yng Nghymru, lle mae rhannau helaeth o’r dalaith honno wedi cael terfynau cyflymder gormesol yn cael eu gorfodi arnyn nhw, yna dw i’n meddwl mai dyna’r dull cywir…”
‘Amharch at ein cenedl’
Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi ymateb yn chwyrn i sylwadau Andrew Griffith.
“Mae’r Torïaid yn San Steffan yn manteisio ar ein hymdrechion i wella diogelwch ar y ffyrdd ac yn dangos eu hamharch at ein cenedl,” meddai.
“Dydyn nhw ddim yn deall nac yn malio am Gymru.”