Mae cais ar gyfer safle carafanau ar fferm eidion cynghorydd yng Ngheredigion oedd yn gobeithio “trochi gwesteion yn yr iaith Gymraeg” wedi cael ei dynnu’n ôl.

Fel rhan o gynllun arallgyfeirio ar ei fferm, ceisiodd Mr A Jones ganiatâd gan Gyngor Sir Ceredigion i newid defnydd y tir yn Fronwen Isaf, Llanarth ar gyfer safle i 25 carafan a gweithfeydd cysylltiedig, ynghyd â chyfleuster stori gaeafol ar gyfer carafanau.

Mewn datganiad ategol, dywedodd yr asiant Addison Design & Development fod y Cynghorydd Arwel Jones, cyd-berchennog ac aelod o’r bedwaredd genhedlaeth i fod yn berch ar y fferm â 100 o wartheg eidion, a’i wraig Mererid am geisio arallgyfeirio ar y fferm er mwyn ymgorffori cyfle newydd ar gyfer cyrchfan i dwristiaid.

“O ganlyniad i gynllunio ymlaen a bod y fferm yn cael ei rannu rhwng Arwel a’i siblingiaid, mae llai o erwau i’r fferm bellach, sy’n golygu ei bod hi’n fwy anodd i wneud i’r fferm dalu pe bai’n parhau i gael ei ffermio yn y ffordd draddodiadol,” meddai’r cais.

Dywedodd y datganiad y byddai’r Gymraeg yn rhan bwysig o’r busnes ar gyfer y pâr sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.

“Mae’r pâr hefyd yn optimistaidd o allu trochi gwesteion yn yr iaith Gymraeg, drwy gyflwyno ‘Ymadrodd Cymraeg y dydd’, ac addysgu gwesteion am yr iaith a’r diwylliant.

“Nod y fath nodweddion yw creu ymdeimlad cryf o le a chymuned Gymraeg.”

Yn y datganiad cais roedd cynlluniau i ehangu’r “elfen o foethusrwydd ar gyfer ymwelwyr”, drwy ardal wrth-ddŵr dan gysgod, gobaith ar gyfer ardal chwarae i blant yn y dyfodol, a chawod ar gyfer cŵn hyd yn oed.

Argymell gwrthod y cais

Ers i’r cais gael ei gyflwyno, mae Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol wedi argymell gwrthod y cais, gan ddweud bod y ffordd ddiddosbarth sy’n gwasanaethu’r safle’n cael ei ystyried yn annigonol yn ei chyflwr presennol.

“Pe bai’n cael ei ganiatáu, byddai’r traffig ychwanegol fyddai’n cael ei greu gan y datblygiad sy’n cael ei gynnig (yn enwedig wrth gyflwyno cerbydau â charafanau teithiol a cherbydau gwersylla ar y rhwydwaith o ffyrdd bach) yn debygol o greu amodau fyddai’n andwyol i ddiogelwch ar y priffyrdd,” meddai’r argymhelliad.

Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi codi pryderon ynghylch “gwybodaeth annigonol” i gefnogi’r cynlluniau, gan geisio rhagor o wybodaeth am ddraenio.

“Pe na bai’r wybodaeth yma’n cael ei darparu, bydden ni’n gwrthwynebu’r cais,” medden nhw.