Mae gweinidogion amgylchedd Cymru a’r Alban yn galw am uwchgynhadledd hinsawdd ar gyfer y Deyrnas Unedig, yn dilyn tro pedol sero net y Prif Weinidog Rishi Sunak yr wythnos ddiwethaf.
Daw eu sylwadau mewn llythyr ar y cyd at Michael Gove, gweinidog cysylltiadau rhynglywodraethol Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae’r llythyr, sydd wedi’i lofnodi gan Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, a Mairi McAllan, Ysgrifennydd Sero-net yr Alban, yn galw am fwy o gydweithio gyda’r llywodraethau datganoledig pan ddaw i gyrraedd targedau sero net.
“Er gwaethaf goblygiadau pellgyrhaeddol y cyhoeddiadau a wnaed – gyda newidiadau sylweddol mewn polisi a fydd yn effeithio ar gynnydd o ran cyflawni sero net ac a fydd â goblygiadau hynod negyddol i’r amgylchedd a’r economi ledled y Deyrnas Unedig ac yn effeithio ymhellach ar enw da rhyngwladol y Deyrnas Unedig – nid oedd unrhyw ymgysylltu blaenorol â’r llywodraethau datganoledig,” meddai.
“O ystyried bod cysylltiad annatod rhwng cyflawni uchelgeisiau hinsawdd pedair gwlad y Deyrnas Unedig, mae hyn yn anfoddhaol iawn.
“Yn ogystal, bron i wythnos yn ddiweddarach, mae’n hynod rwystredig nad yw llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi darparu’r lefel o fanylion sy’n ofynnol gan gyhoeddiadau mor arwyddocaol.
“Byddem yn eich annog i ddarparu hyn ar unwaith er mwyn galluogi llywodraethau datganoledig i asesu’r goblygiadau’n llawn.”
Datblygu dull pedair gwlad
Mae’r llythyr yn mynd yn ei flaen i annog ymrwymiad i uwchgynhadledd sydd wedi’i gadeirio gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd.
“Gan fod proses yr wythnos ddiwethaf yn dangos gwendid y trefniadau presennol, rydym yn awr yn eich annog i sefydlu partneriaeth newydd sy’n parchu’r naill ochr a’r llall, gyda’r nod o ddatblygu dull pedair gwlad gytunedig at sero net mewn modd cydweithredol,” meddai.
“Rydym felly’n eich gwahodd i ymrwymo, yn y lle cyntaf, i uwchgynhadledd lefel uchel ar gyfer dull pedair gwlad ac i gytuno â ni y gwahoddir ein cynghorwyr statudol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd annibynnol, i gadeirio’r uwchgynhadledd.”
Yn ei araith yr wythnos ddiwethaf (Medi 20), symudodd Rishi Sunak waharddiadau ar geir petrol a disel yn ôl i 2035, ynghyd â chael gwared ar y gofyniad i uwchraddio effeithlonrwydd ynni cartrefi.
Roedd beirniadaeth gref i’r sylwadau gan ymgyrchwyr amgylcheddol, y gwrthbleidiau, a rhai aelodau o’i blaid ei hun hefyd.