Mae cynlluniau i droi cyn-westy yn Sir Fflint yn gartref ar gyfer dros 400 o geiswyr lloches gwrywaidd wedi cael eu gwrthod gan gynghorwyr.
Y bwriad oedd defnyddio’r 37 ystafell wely a rhannau o’r maes parcio yn Northop Hall Country House i gartrefu ceiswyr lloches am hyd at saith mlynedd.
Dywed y Cynghorydd Carol Ellis, a oedd yn rhan o’r Pwyllgor Cynllunio dydd Mercher (Medi 27) nad oes unrhyw beth positif am y cynlluniau.
Yn ystod y cyfarfod, bu i’r pwyllgor bleidleisio’n unfrydol yn eu herbyn.
“Rwy’n credu bod y penderfyniad cywir wedi’i wneud yn y pwyllgor cynllunio ddoe,” meddai Carol Ellis wrth golwg360.
“Rwy’ wedi treulio 19 mlynedd fel cynghorydd a dydw i erioed wedi gweld y fath ddangosiad o undod yn erbyn cais.”
Dywed ei bod hi mewn sioc wrth ymweld â’r safle yr wythnos hon, a dydy hi ddim yn gweld sut y byddai’r cynlluniau’n deg ar y gymuned na’r ceiswyr lloches.
“Fe aethon ni ar ymweliad safle ddydd Mawrth i weld y gwesty a chefais sioc o weld graddfa’r datblygiadau ar gyfer ardal mor fach,” meddai.
“O’r gwesty roeddech chi’n gallu gweld i mewn i ystafell wely a chegin un o’r tai, roeddwn i wedi fy arswydo a dweud y gwir, fel yr oedd fy nghydweithwyr ar yr ymweliad safle.
“Dywedais pan oeddem ar yr ymweliad safle ei fod yn union fel rhoi stâd o dai arall gyda channoedd o bobl yn byw arni yno.
“I le mor fach mae’n llawer o bobol.”
‘Lle anghywir’
Derbyniodd Cyngor Sir y Fflint dros 2,500 o lythyrau’n gwrthwynebu’r cynlluniau, gyda sawl un yn poeni bod y lleoliad yn un anghywir.
“I fynd i mewn i un ystafell, byddai’n rhaid i chi gerdded trwy ystafell arall, doedd ddim llawer o breifatrwydd,” meddai Carol Ellis wedyn.
“Mae’n gwneud i chi feddwl, tybed pe bai wedi cael ei basio, beth fyddai’r bobol sy’n byw yno yn ei wneud drwy’r dydd, oherwydd nid oes trafnidiaeth na dim byd o gwmpas iddyn nhw.”
Dywed mai dinas fyddai’r dewis gorau i greu preswylfa o’r fath, lle gallai’r ceiswyr lloches “ymgysylltu â’r hyn sy’n digwydd o’u cwmpas” yn hytrach na chael eu hynysu.
Un o’i phrif bryderon yw sut y byddai cael cymaint o bobol yn symud i’r ardal yn amharu ar wasanaethau lleol.
“Mae hynny’n beth mawr, 408 o bobol mewn pentref sydd heb ddeintydd na meddygfa ei hun,” meddai.
“Mae’n anodd cael apwyntiadau ar hyn o bryd fel mae hi.
“Dim ond mynd i’r adran damweiniau ac achosion brys sydd ei angen i weld na allwn ni ymdopi yng Nghymru.
“Nid yw’r gwasanaethau lleol yn barod ar gyfer cymaint â hynny o bobol, a dydyn ni ddim yn gwybod pa bryderon iechyd sydd ganddyn nhw.”