Mae’r Urdd yn dathlu agor pedwerydd gwersyll yng Nghymru heddiw (dydd Iau, Medi 28).

Lleoliad y Gwersyll Amgylcheddol a Lles yw Pentre Ifan yn Sir Benfro, a hwn yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Bydd y gwersyll newydd yn rhoi blaenoriaeth i’r amgylchedd, lles emosiynol pobol ifanc a’r Gymraeg fel rhan o’r hyn mae’r mudiad yn ei alw’n “brofiad preswyl hudolus”.

Bydd lle yn y gwersyll i 8,000 o bobol ifanc bob blwyddyn, a bydd yn ddihangfa rhag y byd digidol, gan flaenoriaethu eu lles, ymgysylltu â’r amgylchedd a phrofi ffordd o fyw fwy cynaliadwy.

Daw’r datblygiad yn dilyn ymgynghoriad gydag aelodau’r Urdd, pan ddaeth yn amlwg i’r mudiad fod angen gwersyll pwrpasol oedd yn cefnogi iechyd a lles pobol ifanc ynghyd â’r amgylchedd.

Ymysg rhai o weithgareddau’r gwersyll fydd sesiynau gwyllt-grefft, gweithdai ffasiwn gynaliadwy, ioga a meddwlgarwch, serydda, chwedlau wrth y tân, a sesiynau natur a thyfu bwyd.

Mae cyfleusterau’r gwersyll yn cynnwys llety en-suite a glampio, ardaloedd arlwyo ac ymolchi sy’n defnyddio pŵer solar, ardd perlysiau, cegin awyr agored a llecynnau lles.

 

Cwt Carningli

 

Cegin awyr agored

 

Arwyddion yn cyfeirio pobol i wahanol rannau o’r gwersyll

 

Seremoni plannu coed gydag Ysgol Bro Preseli, Jeremy Miles a Julie James

 

Siân Lewis, Jeremy Miles a Julie James

 

Siân Lewis yn annerch yn yr agoriad swyddogol, tra bod Jeremy Miles yn gwylio yn y cefndir

 

Plac swyddogol Gwersyll Pentre Ifan yn datgan ei agoriad

 

Yr Urdd yn agor pedwerydd gwersyll – a’r cyntaf o’i fath yng Nghymru

Gwersyll Amgylcheddol a Lles Pentre Ifan yw’r bedwaredd ganolfan i agor ei drysau yn enw’r Urdd