Mae’r Urdd yn dathlu agor pedwerydd gwersyll yng Nghymru heddiw (dydd Iau, Medi 28).
Lleoliad y Gwersyll Amgylcheddol a Lles yw Pentre Ifan yn Sir Benfro, a hwn yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru.
Bydd y gwersyll newydd yn rhoi blaenoriaeth i’r amgylchedd, lles emosiynol pobol ifanc a’r Gymraeg fel rhan o’r hyn mae’r mudiad yn ei alw’n “brofiad preswyl hudolus”.
Bydd lle yn y gwersyll i 8,000 o bobol ifanc bob blwyddyn, a bydd yn ddihangfa rhag y byd digidol, gan flaenoriaethu eu lles, ymgysylltu â’r amgylchedd a phrofi ffordd o fyw fwy cynaliadwy.
Daw’r datblygiad yn dilyn ymgynghoriad gydag aelodau’r Urdd, pan ddaeth yn amlwg i’r mudiad fod angen gwersyll pwrpasol oedd yn cefnogi iechyd a lles pobol ifanc ynghyd â’r amgylchedd.
Ymysg rhai o weithgareddau’r gwersyll fydd sesiynau gwyllt-grefft, gweithdai ffasiwn gynaliadwy, ioga a meddwlgarwch, serydda, chwedlau wrth y tân, a sesiynau natur a thyfu bwyd.
Mae cyfleusterau’r gwersyll yn cynnwys llety en-suite a glampio, ardaloedd arlwyo ac ymolchi sy’n defnyddio pŵer solar, ardd perlysiau, cegin awyr agored a llecynnau lles.
‘Prosiect unigryw’
Cafodd disgyblion o Ysgol Bro Preseli eu gwahodd i’r agoriad, ynghyd â Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, a Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.
“Rwy’n falch o agor y prosiect unigryw hwn yn swyddogol,” meddai Jeremy Miles.
“Mae’r Urdd wedi gwneud gwaith gwych yn gwrando ac yn creu canolfan sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd, lles pobol ifanc a’r Gymraeg.
“Mae ein Cwricwlwm i Gymru yn ymwneud â gwrando ar ddisgyblion a dysgu mewn ffordd sy’n ennyn eu diddordeb.
“Mae’r argyfwng hinsawdd a natur, yn ogystal â lles, yn ganolog i’r Cwricwlwm ac yn rhan o addysg pob dysgwr.
“Rwy’n falch iawn y bydd Pentre Ifan yn helpu dysgwyr i barchu a chysylltu â natur, cefnogi eu hiechyd meddyliol a chorfforol a datblygu perthnasoedd iach â thechnoleg.”
‘Gwrando ar aelodau’
Yn ôl Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, un o gryfderau’r mudiad yw eu bod nhw’n “gwrando ar yr aelodau er mwyn darparu’r hyn sy’n berthnasol i’w bywydau nhw”.
“Mae datblygu Gwersyll Pentre Ifan yn brawf o hynny – mae’n seiliedig ar weledigaeth ein pobol ifanc,” meddai.
“Mae’r Urdd wedi ymrwymo i gysylltu ieuenctid Cymru â byd natur a’u grymuso i warchod yr amgylchedd, ac mi fydd Gwersyll Pentre Ifan yn ein galluogi i barhau i gael effaith gadarnhaol ar iechyd emosiynol a iechyd meddwl cenedlaethau’r dyfodol.
“Mae hwn yn gam arall ymlaen ym mhrosiect datblygu canolfannau preswyl y Mudiad, sy’n ein galluogi i gynyddu dysgu awyr agored a lles wrth gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.”
- Cafodd Gwersyll Pentre Ifan ei datblygu trwy gymorth rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, Sefydliad Garfield Weston a Sefydliad Elusennol Tywysog Cymr