Mae ystadegau sydd wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar absenoldebau ysgol heddiw (dydd Mercher, Medi 27), yn datgelu nad oes gwelliant wedi bod mewn cyfraddau ers cyfnod Covid.
Yn ôl yr ystadegau, sy’n edrych ar absenoldeb mewn ysgolion uwchradd rhwng Medi 2022 ac Awst 2023, dyblodd canran y sesiynau hanner diwrnod gafodd eu colli gan ddisgyblion oed ysgol uwchradd i 12.5% rhwng 2022/23 a 2018/19.
“Mae tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn awgrymu bod hyn yn bryder byd-eang,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae’n fater yr ydym yn ei gymryd o ddifrif ac yn un y mae’n rhaid inni fynd i’r afael ag ef os ydym am sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael y gorau o’u hamser yn yr ysgol.”
Yn ogystal, roedd canran y disgyblion uwchradd oedd yn absennol yn gyson wedi treblu i 16.3% yn ystod yr un cyfnod.
Ar gyfartaledd, roedd disgyblion Blwyddyn 11 yn fwy tebygol o fod yn absennol na rhai Blwyddyn 7.
Awgryma’r ffigyrau hefyd fod disgyblion oedd yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim yn fwy tebygol o golli ysgol o gymharu â rheiny nad ydyn nhw’n gymwys.
Roedd 35.7% o ddisgyblion oedran ysgol uwchradd oedd yn gymwys am brydau am ddim yn absennol yn gyson yn 2022/23, o’i gymharu â 11.2% o ddisgyblion nad oedden nhw’n gymwys.
‘Bwlch cyrhaeddiad yn tyfu’
Mae Laura Anne Jones, llefarydd Addysg y Ceidwadwyr Cymreig, yn pryderu bod disgyblion sy’n absennol yn aml o dan anfantais yn y dyfodol.
“Mae absenoldeb yn dod yn broblem fawr yng Nghymru ac mae’n rhaid i’r Llywodraeth Lafur ddarlunio cynlluniau cynhwysfawr i fynd i’r afael â’r mater,” meddai.
“Gyda gweithlu heb ddigon o hyfforddiant, heb ddigon o adnoddau, heb ddigon o arian a heb ddigon o staff mewn amgylchedd lle mae trais corfforol a geiriol yn rhemp, nid oes fawr o syndod pam mae absenoldeb wedi cynyddu yn ein hysgolion.
“Rhaid i Lafur fynd i’r afael â’r materion unigol hyn sy’n achosi absenoldeb cyffredinol ymhlith disgyblion, sydd yn y pen draw yn dibynnu ar gyllid, mae’r Llywodraeth Lafur wedi torri’r gyllideb addysg mewn termau real ac mae’r penderfyniad hwn yn effeithio ar addysg ein plant.
“Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnig hyfforddiant priodol i athrawon i ymdrin â thrais mewn ysgolion ac yn gwrthdroi’r toriadau cyllid gan y Llywodraeth Lafur i sicrhau nad yw trais mewn ysgolion, cadw athrawon a recriwtio yn cyfrannu at absenoldeb.
“Mae myfyrwyr sydd â chyfraddau absenoldeb uchel o dan anfantais sylweddol drwy golli cyfleoedd dysgu allweddol a gall presenoldeb gwael arwain at fylchau yng ngwybodaeth disgyblion.
“Gyda’r bwlch cyrhaeddiad yn tyfu rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig, rhaid i Lafur ateb am eu methiannau cynyddol ar addysg yng Nghymru.”
Ddim un ateb
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae “llawer o waith caled ac ymdrech” eisoes wedi’i wneud gan staff ac ysgolion er mwyn cefnogi dysgwyr ac ailennyn eu diddordeb.
Cafodd bron i £500m ei fuddsoddi yn 2020-21 a 2021-22 i gefnogi llesiant myfyrwyr trwy’r cynllun Adnewyddu a diwygio a rhwng 2022-23 roedd £3.5m o gyllid ychwanegol i gefnogi presenoldeb mewn ysgolion.
Er hynny, dywed y Llywodraeth ei bod yn “amlwg nad oes un ateb”.
O ganlyniad, bydd Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol yn cael ei sefydlu i fynd i’r afael â “ffactorau cymhleth a lluosog” sy’n arwain at ddiffyg presenoldeb.
Bydd y grŵp yn edrych ar y rhesymau tu ôl i ddiffyg presenoldeb, a thrwy hynny yn nodi camau gweithredu er mwyn arwain at welliannau.
Mae adroddiad Parentkind gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i wella’r ddealltwriaeth tu ôl i absenoldebau hefyd wedi ei gyhoeddi heddiw.
“Mae’r adroddiad a gyhoeddir heddiw, yn nodi’r hyn a fydd yn ddechrau sgwrs genedlaethol gyda rhieni am yr heriau y maent yn eu hwynebu,” meddai Llywodraeth Cymru.
“Mae’n rhoi cyfle hollbwysig i rieni gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu atebion.”