Mae cadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dweud bod yn rhaid gwneud rhywbeth i wella’r ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig, ond ei fod yn agored i ystyried unrhyw opsiwn a ddaw.

Yn ôl Dylan Rees, y broblem ar hyn o bryd yw nad oes gan ardaloedd mwy gwledig y ddarpariaeth sydd ei hangen, tra bod argaeledd diffoddwyr tân yn dda iawn mewn rhai rhannau o ogledd Cymru megis ar hyd coridor yr A55.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd yn ymgynghori ar ddarpariaeth eu gwasanaeth yn y dyfodol, ac maen nhw’n cynnig tri opsiwn i’r cyhoedd.

Mae un o’r opsiynau hynny, Opsiwn 3, yn golygu cau’r bum gorsaf dân.

“Maen nhw’n cael trafferth mynd allan, yn enwedig yn ganol dydd,” meddai Dylan Rees wrth golwg360, wrth egluro bod gan y rhan fwyaf o orsafoedd tân gwledig ddiffoddwyr tân rhan amser.

“Beth mae hynny’n ei olygu yw ei bod hi’n anodd iawn cael yr argaeledd sydd ei angen yn y llefydd gwledig.

“Dyna pam rydyn ni wedi cynnal yr adolygiad a dod fyny gyda rhai opsiynau i’w hystyried i weld sut allwn ni wella’r argaeledd yn y llefydd gwledig yma fel ein bod ni’n gallu cael yr argaeledd sydd ei angen ar draws gogledd Cymru.”

Ar hyn o bryd, mae tri phrif opsiwn yn cael eu hystyried, ac er gwaetha’r pryderon y bydd y newidiadau yn arwain at golli staff neu gynnydd yn nhreth y cyngor, achub bywydau yw’r flaenoriaeth, yn ôl Dylan Rees.

“Yn anffodus mae’n edrych yn debyg bydd rhaid i’r trethi cyngor godi achos lefi sydd gan y gwasanaeth tân ac mae yna ddiffyg yn y gyllideb wrth symud ymlaen flwyddyn nesaf,” meddai.

“Mae yna rhai pobol yn dweud bod yr opsiynau yna achos ein bod ni eisiau gwneud arbedion ond dydy hynny ddim yn gywir.”

Tri opsiwn posib

Dywed mai’r opsiwn cyntaf sydd yn cael ei ffafrio gan y cyhoedd ar hyn o bryd.

Byddai opsiwn un yn golygu newid y strwythur yng ngorsafoedd tân Glannau Dyfrdwy a Fflint ble mae staff 24 awr y dydd.

Byddai eu shifftiau nhw’n newid fel eu bod nhw ddim ond yn gweithio yn ystod y dydd, a byddai hynny’n rhyddhau diffoddwyr tân i fynd i weithio mewn ardaloedd gwledig.

Wedyn, byddai gan dair gorsaf dân – rheiny yn Nolgellau, Corwen a Phorthmadog – well argaeledd yn ystod y dydd.

Cyfeiria Dylan Rees at yr ail opsiwn fel un sydd “tipyn bach yn y canol”, oherwydd er ei fod yn ffordd o wella’r argaeledd, mae’n debyg y byddai’n arwain at golli swyddi – ynghyd â cholli cerbyd tân yn Wrecsam.

Byddai gorsafoedd y Rhyl a Glannau Dyfrdwy yn ddibynnol ar ddiffoddwyr ar alwad yn y nos dan yr ail opsiwn, ac felly’n arbed tua £1m, ond yn cael gwared ar ryw 22 o swyddi.

Mae’r trydydd opsiwn yn canolbwyntio ar arbedion er mwyn mynd i’r afael â phryderon costau byw, ond fyddai hyn ddim yn gwella argaeledd diffoddwyr tân, yn ôl Dylan Rees.

Byddai hynny’n golygu cau pum gorsaf dân dros dro – yng Ngherrigydrudion, Llanberis, Conwy, Biwmares ac Abersoch – ond dywed ei bod hi wedi dod i’r amlwg yn dilyn cyfarfodydd cyhoeddus fod y cyhoedd yn gwrthwynebu hynny.

Mae’r uwch swyddog tân Dawn Docx hefyd yn dweud nad yw hi’n cefnogi’r trydydd opsiwn, ac felly dyma’r opsiwn sy’n edrych leiaf tebygol ar y funud.

‘Dim bwled arian’

Un sydd wedi beirniadu’r cynlluniau yw Joel James, llefarydd Partneriaeth Gymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig.

“Maen nhw’n bygwth y bydd swyddi diffoddwyr tân yn cael eu colli a bydd gorsafoedd tân yn cau os nad yw’r cyhoedd yn cefnogi hyn, a chredaf mai sgrin fwg yw hwn mewn gwirionedd i guddio’r ffaith eu bod yn poeni na fyddan nhw’n gallu cyrraedd eu hamser ymateb o 20 munud yn sgil cyflwyno’r terfyn cyflymder 20 m.y.a.,” meddai.

Ond dywed Dylan Rees bod yr adolygiad wedi cychwyn ymhell cyn i’r polisi ddod i rym.

“Ble mae’r dystiolaeth gydag e i ddod allan efo’r fath ddatganiad?” meddai.

“Y gwir amdani ydi bod yr adolygiad yma wedi cychwyn cryn dipyn o amser cyn y terfyn cyflymder newydd.

“Beth sy’n rhaid ystyried ydi ein bod ni’n sôn am achub bywydau pobol sydd wedi cael anafiadau difrifol mewn damwain mewn llefydd gwledig.”

O dan opsiwn un, meddai, byddai 2,148 yn fwy o aelwydydd yn cael ymateb o fewn 20 munud.

“Dyna yn y bôn rydyn ni’n drio ei wneud, rydyn ni’n pryderu am y ffaith ein bod ni methu cyrraedd yn ddigon cyflym mewn llefydd gwledig ac mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth am hynny,” meddai.

“Does yna ddim bwled arian na mwy o arian ar gael ac felly mae’n rhaid i ni edrych ar yr adnoddau sydd gyda ni’n barod er mwyn trio cyrraedd y nod yna.”

Rhaid “ffeindio consensws”

Ynghyd â’r tri opsiwn presennol, mae Undeb y Brigadau Tân hefyd wedi awgrymu dau opsiwn arall.

Dywed Dylan Rees fod yr opsiynau yna hefyd yn cael eu hystyried a bod yr Undeb wedi cael eu gwahodd i gyflwyno’r opsiynau i gyfarfod gyda holl aelodau’r awdurdod tân.

“Rydyn ni’n croesawu hynny ac mae’n bwysig iawn cydnabod y ffaith bod Undeb y Brigadau Tân yn cydnabod y broblem ac yn cytuno bod rhaid gwneud rhywbeth i wella’r ymateb mewn llefydd gwledig,” meddai.

Dywed fod rhaid “trio ffeindio consensws” o ran y ffordd orau ymlaen i ddatrys y broblem, a bod hynny’n golygu efallai na fydd yr un o’r tri opsiwn gwreiddiol yn cael eu defnyddio yn y pen draw, neu fod y datrysiad yn gyfuniad o opsiynau.

Cadw gorsafoedd tân mewn ardaloedd gwledig yn “hanfodol”

Cafodd deiseb yn galw am gadw gorsafoedd Cerrigydrudion, Llanberis, Conwy, Biwmares ac Abersoch ar agor ei lansio dros y penwythnos
Rhan o beiriant tan

Pryder gwleidyddion am gynlluniau posib i gau gorsafoedd tân yn y gogledd

Mae un opsiynau’n cynnwys cau pum gorsaf dân, ac mae angen i fwy o bobol allu dweud eu dweud am y mater, medd Plaid Cymru