Mae’n “peri pryder mawr” fod Ysgrifennydd Cartref y Deyrnas Unedig yn dweud na ddylai bod yn hoyw fod yn ddigon, ar ben ei hun, i hawlio lloches, medd mudiad Stonewall.

Mewn araith yn yr Unol Daleithiau ddoe (dydd Mawrth, Medi 26), fe wnaeth Suella Braverman ofyn a yw Confensiwn Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig 1951 “yn addas ar gyfer yr oes fodern”.

Dywedodd hefyd na ddylai “bod yn hoyw, neu’n ddynes, ar ei ben ei hun” fod yn ddigon i gael eich amddiffyn dan gyfreithiau ceiswyr lloches rhyngwladol.

Gwnaeth y sylwadau wrth siarad mewn digwyddiad gafodd ei drefnu gan felin drafod yr American Enterprise Institute yn Washington DC, wrth iddi fanylu ar ei chynlluniau i fynd i’r afael â’r argyfwng ffoaduriaid.

Wrth ymateb, dywed Stonewall ei bod hi’n “peri pryder mawr clywed yr Ysgrifennydd Cartref yn mynd yn erbyn confensiynau’r Cenhedloedd Unedig, confensiynau y mae’r rhan fwyaf o genhedloedd y byd wedi’u harwyddo neu eu derbyn”.

‘Llosgi’r llyfr moesau’

Dywed Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, eu bod nhw’n creu “gwahaniaethau ac yn gwahaniaethu”.

“Mae’r Torïaid yn trio plesio eu cefnogwyr mwyaf rhagfarnllyd, gan guddio rhagfarn mewn polisi gan yr Ysgrifennydd Cartref,” meddai.

“Mae llywodraeth San Steffan yn llosgi’r llyfr moesau.”

Ychwanega Vaughan Gething, Gweinidog Economi Cymru, bod y “rhain yn sylwadau aflonyddol dros ben gan Blaid Dorïaidd sy’n dychwelyd i’w chorneli tywyllaf”.

“Dyw hwn ddim yn rhyfel diwylliant – mae’n amlwg ei fod yn cael ei yrru gan eu hideoleg,” meddai.

“Hyd yn oed ymysg y rhengoedd uchaf, nid oes dim yn mynd rhy bell ganddyn nhw.”

‘Realiti creulon’

Dywed Leanne MacMillan, Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol Stonewall, fod angen “tosturi a chefnogaeth gan arweinwyr gwleidyddol a sicrwydd eu bod nhw’n cadw at gyfraith ryngwladol”.

“Dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig 1951 yn Ymwneud â Statws Ffoaduriaid a Phrotocol 1967, mae’n ffaith ers degawdau bod menywod a phobol LHDTC+ sy’n cael eu herlid ac angen dianc o’u mamwlad yn cael eu hamddiffyn gan y gymuned ryngwladol,” meddai.

“Does dim amheuaeth bod pobol LHDTC+ yn parhau i gael eu herlid dros y byd.

“Ar y lefel symlaf o ddealltwriaeth, mae perthnasau o’r un rhyw yn anghyfreithlon mewn dros 60 gwlad dros y byd yn dal i fod, gan gynnwys deuddeg ohonyn nhw gyda’r gosb eithaf, yn syml am fod yn pwy ydyn nhw a charu’r sawl maen nhw’n eu caru.

“Mae pobol LHDTC+ yn cael eu gorfodi i ddianc rhag erledigaeth, gan gynnwys rhag toreth o gamdriniaethau i hawliau dynol megis artaith, triniaeth wael, a gwrthod yr hawliau symlaf i oroesi.

“Dyma yw realiti creulon pobol LHDTC+ dros y byd.

“Dydy’r awgrym bod llwyth o geiswyr lloches benywaidd ac LHDTC+ yn defnyddio’u hunaniaeth i hawlio lloches ffug yn helpu neb, ac mae’n awgrym simsan wrth ei ystyried ochr yn ochr â’r ystadegau sy’n dangos yn glir bod y rhan fwyaf o’r ymgeision yn ddilys ac yn cael eu gwneud gan bobol sydd mewn perygl difrifol o drais.

“Mae gan y Deyrnas Unedig hanes diweddar balch o helpu pobol LHDTC+ sy’n dianc rhag erledigaeth y Taliban, a sefyll dros hawliau pobol LHDTC+ ar y llwyfan rhyngwladol.

“Dyma’r math o arweinyddiaeth fyd-eang rydyn ni angen ei gweld, nid ras i’r gwaelod a throi ein cefnau ar bobol LHDTC+ yn rhai o gyd-destunau mwyaf gelyniaethus y byd.”

‘Methu cynnal y system loches’

Yn ystod ei haraith, dadleuodd Suella Braverman fod y profion ar gyfer diffinio ffoaduriaid wedi newid, a’r gofynion ar gyfer hawlio lloches wedi gostwng.

“Gadewch i mi fod yn eglur, mae yna rannau mawr o’r byd lle mae hi’n eithriadol o anodd bod yn hoyw, neu fod yn fenyw, lle mae unigolion yn cael eu herlid, mae’n iawn i ni gynnig noddfa,” meddai.

“Ond fyddan ni ddim yn gallu cynnal system loches os ydy bod yn hoyw, neu bod yn fenyw, yn unig a bod ofn gwahaniaethu yn eich gwlad eich hun yn ddigon i gael eich amddiffyn.”