Mae dirywiad platfform Twitter, X bellach, yn “golled” i siaradwyr Cymraeg, medd arbenigwr ar y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg.

Ers i Elon Musk brynu’r platfform, mae nifer o ddefnyddwyr wedi penderfynu cael gwared ar eu cyfrifon.

Mae Rhodri ap Dyfrig yn credu y bydd platfform arall yn tyfu’n gartref i drafodaethau Cymraeg, ond ei bod hi’n anodd gweld lle ar y funud.

Yn ddiweddar, mae Elon Musk wedi dweud y bydd yn codi ffi ar holl ddefnyddwyr X, gan fynnu mai dyna’r unig ffordd i’w ddiogelu yn erbyn cyfrifon ffug.

Eisoes, mae defnyddwyr yn gallu talu er mwyn cael tic glas sy’n cadarnhau eu cyfrifon, yn hytrach na’r hen drefn pan roedd Twitter yn gwirio cyfrifon enwogion ac ati eu hunain.

Yn ôl cyfrif Yr Awr Gymraeg ar X, mae’r effaith ar gynnwys yn y Gymraeg ers i Elon Musk gymryd drosodd “wedi bod yn syfrdanol”.

“Cyrhaeddiad ac amlygrwydd negeseuon yn y Gymraeg wedi disgyn yn sylweddol,” meddai’r cyfrif sy’n rhannu trydariadau am ddigwyddiadau Cymraeg am awr bob wythnos.

“Fydd talu am Twitter yr hoelen olaf yn yr arch.”

‘Cartref naturiol ar ôl maes-e’

Er mwyn ystyried sut ddatblygodd cymuned Gymraeg ar Twitter, mae’n rhaid edrych ar ei hanes, meddai Rhodri ap Dyfrig.

“2006 sefydlwyd Twitter felly mae o’n bell iawn yn ôl erbyn hyn, a nifer fawr o bobol wedi bod yna ers 2008, 2009,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r platfform wedi newid lot fawr dros y cyfnod yna, ond mi ddaeth o’n lle ar gyfer cael gwybod am newyddion o bob math – dim jyst newyddion sy’n torri ond newyddion gan sefydliadau, gan bob math o unigolion. Roedd o’r lle gorau i gael diweddariadau sydyn.

“Dw i’n meddwl bod hynny wedi bachu’n syth o ran siaradwyr Cymraeg, dw i’n credu yn y cychwyn bod yna grŵp o bobol yn chwilio am gartref ar ôl i maes-e.com ddechrau dirwyn i ben o ran cymuned Gymraeg ar-lein.

“Mi ddaeth Twitter yn gartref naturiol i lot o’r bobol yna – roedd gen ti bobol yn trydar yn uniaith Gymraeg yn aml iawn ac yn gwneud penderfyniad i wneud hynny er mwyn creu gofod Cymraeg ar Twitter.”

Roedd Rhodri ap Dyfrig yn gyfrifol am wefan ffrwti.com, oedd yn casglu trydariadau Cymraeg at ei gilydd ar un wefan i ddarganfod pwy oedd y defnyddwyr Cymraeg.

“Y rheswm bod modd gwneud hynny oedd achos bod yna gymaint o bobol yn defnyddio Cymraeg arno fo, aeth hwnna fyny at tua 25,000 o gyfrifon oedd yn defnyddio Cymraeg.

“Wnaeth y wefan ddim para, ond be oedd yna ddim ar ôl hynny oedd unrhyw fesur o faint o bobol oedd yn defnyddio Cymraeg ar Twitter.

“Fel roedd Yr Awr Gymraeg yn weld, roedd yna le i farchnata i siaradwyr Cymraeg achos bod yn gymaint o siaradwyr Cymraeg yna, busnesau yn ei ddefnyddio fo. Roedd yna fodd bod yn llwyddiannus drwy greu cynnwys Cymraeg ar Twitter.”

Y Gymraeg yn symud i blatfformau eraill

Mae dirywiad Twitter yn dyddio’n ôl ymhellach na phryniant Elon Musk, meddai Rhodri ap Dyfrig, sy’n dweud bod pobol wedi dechrau troi eu cefnau arno ers cyfnod etholiad Trump yn 2016 gan eu bod nhw’n gweld ei fod yn mynd yn lle “mwy gwenwynig”.

“Be wnaeth [Elon Musk] oedd cyflymu’r dirywiad yn syfrdanol,” meddai.

“Efallai y bydd o’n un o’r llwyfannau hynny, fel MySpace, fydd ddim yn bodoli mewn blynyddoedd oherwydd bod y model ariannol wedi torri.

“Mi fydd rhai’n ei weld o fel colled, ond yn barod dw i’n meddwl bod pobol wedi symud i blatfformau eraill ac yn cynnal sgyrsiau Cymraeg a chymunedau Cymraeg mewn llefydd eraill.

“Mae’n biti colli’r un lle yna, roedd o wastad yn teimlo fel os wyt ti eisiau marchnata rhywbeth neu gael gwybodaeth am rywbeth roedd posib troi at yr un ffynhonnell yna. Hwnna ydy’r golled.

“Ond yn y pendraw mi dyfith ffynhonnell arall yn ôl, dw i’n credu, yn ôl patrwm y pethau yma.

“Mae’n anodd gweld ar hyn o bryd lle mae hynny’n mynd i ddigwydd.”

Y “bwystfil mwyaf” nesaf?

Mae Threads, sy’n manteisio ar ddefnyddwyr Instagram “bron yn gopi union” o Twitter, ac mae Rhodri ap Dyfrig gweld dipyn yn troi ato.

“Mae lot o bobol yn dweud ei fod o fel defnyddio Twitter yn ôl yn 2009, 2010 pan oedd Twitter yn dda ac yn lle iach a chreadigol,” eglura Rhodri.

“Ar yr un pryd, mae yna rai pobol wedi mynd i ddefnyddio Mastedon, rhai ddim wedi mynd i’r unlle arall – mae wedi fragmentio o ran defnyddwyr a dw i’n credu bod hwnna’n gallu bod yn lle anodd achos ti ddim yn gwybod lle i roi dy egni.

“Mae o’n gyfnod o darfu ar ddarlun y cyfryngau cymdeithasol, mae yna lot o gystadlu, lot o gwestiynu faint o amser ddylen ni dreulio arnyn nhw, ydyn nhw’n iach i ni, ydyn nhw’n foesol o ran sut maen nhw’n trin pobol.

“Mae yna dipyn o ansefydlogrwydd yn y maes yna o ran llwyfannau cyfathrebu a chymunedau ar-lein, ac ar hyn o bryd mae gen ti Twitter, Meta’n trio Threads, a phobol annibynnol yn trio creu rhwydweithiau cymdeithasol sydd ddim wedi’u rhedeg gan gorfforaethau mawr ac sy’n trin data mewn ffordd sydd yn parchu defnyddwyr.

“Mae’n eithaf diddorol gwylio hyn a gweld pa lwyfan fydd n ennill y dydd ac yn gweld twf – neu os fydd pobol yn dewis troi at gyfrwng gwahanol yn llwyr fel TikTok ac os mai nhw fydd yn adeiladu i fod y bwystfil mwyaf.”