Mae’r cwmni bysiau Arriva yn dweud bod y terfyn cyflymder 20 m.y.a. wedi “creu amodau gweithredu heriol”, ac o ganlyniad fod yn rhaid adolygu’r amserlen.
Daw hyn wedi i fwy na 400,000 o bobol lofnodi deiseb i gael gwared ar y polisi gafodd ei gyflwyno fis yma (Medi 17).
Yn ôl Arriva, mae’r terfyn wedi amharu ar eu gallu i gyrraedd targedau amser hyd yma, ond maen nhw’n dweud bod angen cynnal asesiadau pellach cyn gwneud unrhyw newidiadau terfynol.
Maen nhw’n dweud bod angen adnoddau ychwanegol a rhai newidiadau i’r amserlen er mwyn gwella prydlondeb.
“Mae Arriva wedi bod yn monitro ei hamserlenni’n agos ers i’r terfyn cyflymder 20 m.y.a. ddod i rym yng Nghymru ac mae’n cynllunio adolygiad o’i rwydweithiau,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.
“Hyd yn hyn, bu effaith ar brydlondeb wrth i amseroedd teithio ymestyn, sydd wedi bod yn arbennig o amlwg ar deithiau hirach neu’r teithiau hynny sy’n cysylltu trefi.
“Rydym yn cynnal adolygiad ar raddfa fawr o’r rhwydwaith a bydd angen cyfuniad o adnoddau ychwanegol, newidiadau i amlder a newidiadau i lwybrau i wella prydlondeb fel y gallwn wasanaethu ein cwsmeriaid yn well.
“Mae’n ddyddiau cynnar ac mae angen mwy o amser i asesu’r data cyn gwneud penderfyniad terfynol ar y rhwydwaith.
“Rydym yn dechrau trafod goblygiadau hyn gyda’r awdurdodau perthnasol.”
Cwestiwn amserol
Mae Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, wedi beirniadu effaith y polisi ar wasanaethau bysiau.
“Rwyf wedi rhybuddio ers wythnosau lawer am ganlyniadau cyflwyno’r terfyn cyflymder 20 m.y.a. cyffredinol a nawr rydym yn dechrau gweld y difrod dinistriol y mae’n ei achosi i Gymru,” meddai.
“Gyda’r diwydiant eisoes yn wynebu toriadau a phobol yn teimlo’n sownd mewn ardaloedd gwledig, y peth olaf sydd ei angen ar y gwasanaeth yw heriau pellach oherwydd cyflwyniad polisi gwallgof Llafur.”
Dywed y bydd cwestiwn amserol ar y mater yn cael ei godi i Lywodraeth Cymru yn y cyfarfod llawn brynhawn heddiw (dydd Mercher, Medi 27).
“Mae agenda gwrth-gar, gwrth-weithwyr a gwrth-dwf Llafur yn cosbi pobl Cymru,” meddai.
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n monitro effeithiau’r polisi ac yn gweithio gyda chwmnïau bysiau.
“Rydym wedi bod yn glir o’r cychwyn cyntaf y byddem yn monitro unrhyw effeithiau o’r 20 m.y.a. ar wasanaethau bysiau,” meddai.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda gweithredwyr bysiau, awdurdodau lleol a Thrafnidiaeth Cymru i fynd i’r afael â’r heriau y mae’r diwydiant yn eu hwynebu.”