Mae pleidiau gwleidyddol sydd o blaid annibyniaeth i Gatalwnia ac sy’n galw am gyfraith amnest ar gyfer arweinwyr yr ymgyrch wedi amlinellu eu gwrthwynebiad i ymgais Alberto Núñez Feijóo i ddod yn Brif Weinidog Sbaen.

Yn ôl Esquerra Republicana, gwladwriaeth a democratiaeth Sbaen yn bennaf fyddai ar eu hennill ac mae’n dweud bod rhaid gosod yr amodau ar gyfer ymreolaeth.

Mae Junts per Catalunya yn rhybuddio’r Sosialwyr nad oes yna’r “amodau ar gyfer cytundeb hanesyddol” eto, ac y bydd yn rhaid i’r Prif Weinidog dros dro, Pedro Sánchez, greu’r amodau hynny.

Yn ôl Junts, does dim “rhwystrau cyfreithiol” sy’n atal refferendwm arall, ond yn hytrach fod yna “ddiffyg ewyllys” ymhlith rhai.

Mae’r Sosialwyr yn cyhuddo Plaid y Bobol o beidio deall y sefyllfa, gan gyfeirio at eu “hateb negyddol parhaus o ran dod i gytundeb ar ddatrysiad”, ac o redeg i ffwrdd o’r ffrae pan nad yw’r amodau o’u plaid nhw.

Mae Plaid y Bobol hefyd wedi cael eu beirniadu am alw ar y Sosialwyr i atal eu pleidlais ar ymgeisyddiaeth Feijóo.

Wnaeth Pedro Sánchez ddim cymryd rhan yn y ddadl, tra bod y blaid asgell dde Vox yn rhybuddio’r pleidiau annibyniaeth nad yw eu “breuddwyd am weriniaeth” yn bosib o ganlyniad i ddiffyg arian.

Mae Vox yn galw am fwy o gydweithio rhyngddyn nhw a Phlaid y Bobol ar y mater yn y dyfodol, wrth i’r pleidiau dros annibyniaeth fynnu na fydd yr asgell dde yn cael rhwydd hynt i “ddinistrio ein cenedl”.

Yn ôl plaid Sumar, mae amnest yn gam tuag at ddatrysiad a sgwrs, a “thudalen newydd” ar y gwrthdaro yng Nghatalwnia, gan gyhuddo Feijóo o “roi Catalawnia ar dân” ac o fod “y cyntaf yn y gwrthdaro a’r olaf yn y sgwrs”.

Gosod amodau

Yn y cyfamser, mae Pere Aragonès, arlywydd Catalwnia, yn annog prif weinidog nesaf Sbaen i osod yr amodau ar gyfer pleidlais ar annibyniaeth erbyn 2027.

Dywed fod rhaid i arweinydd nesaf Sbaen “ddod o hyd i ffordd o adael i drigolion Catalwnia bleidleisio”.

Dywed fod cyfraith amnest yn anochel, gan ddweud nad yw’r gwrthdaro rhwng Sbaen a Chatalwnia “o fudd i neb”, bod angen “datrysiad gwleidyddol”, a bod Catalwnia yn allweddol i ddyfodol llywodraethiant Sbaen.

“Dydy pleidleisio ddim yn drosedd,” meddai.

“Dydy gadael i bobol bleidleisio ddim yn drosedd.”

Ychwanega ei fod yn disgwyl gwahodd y cyn-arweinydd Carles Puigdemont a Marta Rovira, ysgrifennydd cyffredinol Esquerra, i bencadlys Llywodraeth Catalwnia yn fuan, gyda’r ddau wedi bod yn byw’n alltud ers refferendwm annibyniaeth 2017.

Ond dydy cyfraith amnest ar ei phen ei hun ddim yn ddigonol, meddai.