Mae 63% o fenywod ifanc yng Nghymru’n cael trafferth gwneud i’w cyflog bara tan ddiwedd y mis, yn ôl ymchwil newydd.
Roedd y ganran honno, oedd yn seiliedig ar fenywod rhwng 18 a 30 oed, yn uwch eleni, o gymharu â’r 59% oedd yn cael trafferth y llynedd.
Yn ôl adroddiad gan yr Young Women’s Trust, dywedodd 45% o’r menywod gafodd eu holi yng Nghymru fod eu sefyllfa ariannol wedi gwaethygu dros y deuddeg mis diwethaf.
Daeth yr arolwg o dros 4,000 o ferched yng Nghymru a Lloegr i’r casgliad bod 33% o fenywod ifanc wedi methu fforddio bwyd a nwyddau hanfodol, a bod 24% wedi bod ar ei hôl hi gyda rhent neu filiau dros y deuddeg mis diwethaf.
Mae’r Young Women’s Trust yn galw am fesurau i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb sy’n wynebu menywod ifanc ym myd gwaith, gan gynnwys mesurau cryfach i fynd i’r afael â gwahaniaethu a mwy o ymchwil ar y bwlch cyflog rhwng menywod a dynion.
‘Cymdeithasu llai’
Ar gyfartaledd, mae menywod yn ennill £5,000 y flwyddyn yn llai na dynion pan maen nhw’n dechrau gweithio, yn ôl ymchwil yr ymddiriedolaeth.
Dywedodd un o’r menywod wnaeth gymryd rhan yn yr ymchwil ei bod hi wedi bod yn gweithio’n eithriadol o galed er mwyn gallu rhoi blaendal ar dŷ neu gael digon o arian i rentu’n agosach i ganol y ddinas am y tro.
“Ond gyda’r cynnydd yn y gyfradd llog a Llywodraeth [y Deyrnas Unedig] yn methu cydnabod gwaith pobol sengl annibynnol, does gen i ddim dewis ond colli traean o fy nghyflog er mwyn cyrraedd y gwaith,” meddai Amy.
“Yn sgil hynny, dw i’n cymdeithasu llai, dw i’n gweld llai ar fy ffrindiau achos fedra i ddim cyfiawnhau’r costau teithio i’w gweld nhw mor aml.”
Dim ‘cyfle cyfartal’
Yn ôl Clare Reindorp, Prif Weithredwr y Young Women’s Trust, mae’r argyfwng costau byw yn dal i effeithio pawb, “ond mae menywod ifanc yn fwy tebygol o fod yn ei wynebu heb rwyd diogelwch”, ac mae eu sefyllfa ariannol yn mynd o ddrwg i waeth.
“Pe bai eu hincwm blynyddol cyfartalog yr un fath â dynion ifanc, byddai gan fenywod ifanc £5,000 ychwanegol,” meddai.
“Bydden nhw’n gallu talu eu biliau am flwyddyn gyfan a gwneud llawer mwy â’u bywydau.
“Mae’r bwlch incwm yn cael ei achosi gan sawl ffactor, gan gynnwys bod menywod ifanc mewn swyddi â chyflogau is, gwahaniaethu a diffyg mynediad at ofal plant fforddiadwy ac oriau gwaith hyblyg.
“Dydy menywod ifanc ddim yn cael cyfle cyfartal i wneud bywoliaeth dda iddyn nhw eu hunain, ac mae llai o ffyrdd iddyn nhw ddod dros galedi ariannol.
“Mae hi’n hanfodol ein bod ni’n gwrando ar fenywod ifanc a theilwra’r gefnogaeth i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb – mae bywydau menywod ifanc yn y fantol.”