Mae 142,000 o bobol ifanc “ar eu colled oherwydd degawd o lusgo traed” wrth gael gwared ar raddau TGAU Cymraeg Ail Iaith, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Ers i adroddiad argymell cael gwared ar bwnc Cymraeg ail iaith a chreu un llwybr dysgu Cymraeg i bawb ddeng mlynedd yn ôl, mae ymchwil y mudiad iaith yn dangos bod 142,351 o blant wedi cael ennill TGAU mewn Cymraeg Ail Iaith.

O gymharu, dim ond 49,657 gafodd radd TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf yn yr un cyfnod.

Cafodd grŵp annibynnol, dan gadeiryddiaeth yr Athro Sioned Davies, ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i edrych ar ddarpariaeth Cymraeg Ail Iaith ddeng mlynedd yn ôl.

Roedd argymhellion yr adroddiad Un Iaith i Bawb yn cynnwys cael gwared ar y rhaniad rhwng Cymraeg iaith gyntaf a Chymraeg ail iaith, gan sefydlu un continwwm o ddysgu Cymraeg i bob disgybl, a gosod targedau ar gyfer darparu mwy o addysgu trwy’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

‘Testun gwarth’

Fodd bynnag, mae TGAU Cymraeg Ail Iaith yn dal i fodoli, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn teimlo bod y disgyblion wedi’u hamddifadu o’r cyfle i ddysgu Cymraeg yn hyderus.

Dywed Mabli Siriol, cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, fod “degawd o lusgo traed gan y Llywodraeth yn golygu bod cenhedlaeth arall o bobol ifanc wedi cael eu hamddifadu o’r Gymraeg”.

“Ddeng mlynedd yn ôl, casglodd adroddiad a gomisiynwyd gan y Llywodraeth ei hun ‘ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith’, ac er gwaetha’r ymrwymiadau a’r rhethreg rydyn ni wedi gweld ers hynny, does dim cynnydd go iawn wedi’i wneud i ddileu Cymraeg ail iaith a sefydlu un llwybr dysgu ac un cymhwyster i bawb,” meddai.

“Er gwaetha’r ymdrechion i’w hailfrandio, mae’r cwricwlwm a’r cymwysterau newydd yn cadw’r rhaniad rhwng Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith, sy’n rhoi nenfwd artiffisial ar gyrhaeddiad 80% o’n pobol ifanc ac yn mynd yn groes i’r egwyddor sydd wedi’i derbyn o un continwwm dysgu ac asesu, a’r un cyfle i bawb.

“Mae pob un o’r 142,000 o bobol ifanc hynny’n cynrychioli unigolyn a fyddai wedi gallu datblygu’r gallu i gyfathrebu’n hyderus yn Gymraeg, a phrofi’r holl gyfleoedd sy’n dod gyda hynny.

“Mae’n destun gwarth bod difaterwch ein Llywodraeth ac asiantaethau addysg wedi methu’r bobl ifanc hynny.

“Nawr, rhaid defnyddio’r cyfle sy’n dod gyda’r Bil Addysg Gymraeg newydd i sicrhau y bydd pob plentyn yn tyfu lan i siarad yr iaith sy’n perthyn iddynt.”

‘Rhaid i’r Llywodraeth weithredu ar fyrder’

Mae’r Athro Sioned Davies, awdur yr adroddiad gwreiddiol, hefyd wedi mynegi ei rhwystredigaeth.

“Os oedd sefyllfa Cymraeg Ail Iaith yn ddifrifol ddeng mlynedd yn ôl, mae’n enbydus erbyn hyn,” meddai.

“Mae mwyafrif llethol y disgyblion hynny sydd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn dal i adael yr ysgol heb allu cynnal sgwrs yn y Gymraeg, ac mae’r niferoedd sy’n mynd ymlaen i wneud Safon Uwch neu radd yn y Gymraeg wedi gweld gostyngiad trychinebus.

“Os ydym o ddifri yn ein huchelgais i weld y Gymraeg yn perthyn i bawb, rhaid i’r Llywodraeth weithredu ar fyrder.

“Mae hynny’n cynnwys chwyldro o ran buddsoddi a chynllunio’r gweithlu fel bod cyflenwad digonol o athrawon a staff eraill ar gael i sicrhau bod pob un plentyn yn y dyfodol yn dod yn siaradwyr Cymraeg hyderus.”

Bil Addysg Gymraeg

“Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn seiliedig ar ‘gontinwwm dysgu’, fel bod dysgwyr sy’n dechrau gydag ychydig neu ddim sgiliau Cymraeg yn datblygu tuag at ddod yn siaradwyr hyderus,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae hyn yn adlewyrchu argymhellion yr adolygiad Un Iaith i Bawb i gael un continwwm dysgu i’r Gymraeg gyda disgwyliadau clir ar gyfer disgyblion sy’n dysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, dwyieithog a chyfrwng Cymraeg.

“Rhwng mis Mawrth a mis Mehefin eleni, fe wnaethom ymgynghori ar gynigion a fydd yn sail i Fil Addysg Gymraeg.

“Bydd y Bil yn cymryd camau i alluogi holl ddisgyblion Cymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus drwy’r system addysg statudol.”