Mae’r ffigurau twristiaeth diweddaraf yn “ddigalon ar y gorau”, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig wrth iddyn nhw gyhuddo Llywodraeth Cymru o fethu â denu ymwelwyr.

Daw sylwadau Tom Giffard, llefarydd diwylliant a thwristiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, wrth ymateb i ystadegau newydd sy’n dangos bod gostyngiad o 4% yn y nifer wnaeth aros mewn gwestai yng Nghymru rhwng mis Ebrill y llynedd (80%) ac Ebrill eleni (76%).

Mae’r data o’r Arolwg Deiliadaeth Llety Cymru ar gyfer Ebrill, Mai a Mehefin 2023 yn dangos bod gostyngiad yn y niferoedd wnaeth aros mewn gwestai o gymharu â’r misoedd hynny’r llynedd.

Ym mis Ebrill eleni, roedd gostyngiad o 1% rhwng mis Mai 2022 (79%) a mis Mai 2023 (78%), a 3% rhwng mis Mehefin 2022 (82%) a mis Mehefin 2023 (79%).

Roedd gwestai ar eu llawnaf yn y gogledd yn ystod ail chwarter 2023, gyda deiliadaeth o 86% yn yr ardal, 81% yn y de orllewin, a 78% yn y de ddwyrain lle’r oedd y diwydiant ar ei ddistawaf.

Blwyddyn ddistawach yng Nghricieth

Un gwesty sydd wedi gweld niferoedd eu hymwelwyr yn gostwng ydy Gwesty’r Lion yng Nghricieth.

“Yn y flwyddyn ddiwethaf, do [mae hi wedi edi bod yn ddistawach],” meddai Rheolwr Cyffredinol y gwesty wrth golwg360.

“Dw i’n meddwl bod pawb yn aros am y tywydd hefyd, roedd bob dim munud olaf.

“Os oedd yr haul allan roedd hi’n llenwi, os doedd o ddim roedd hi’n anodd llenwi.

“Roedd o gyd yn ddibynnol ar y tywydd.”

‘Dydy pobol ddim yn gwario gymaint o arian’

Er bod un gwesty yn ardal Porthmadog wedi parhau i fod yn brysur yn ystod y cyfnod hwn, mae un gweithiwr yn dweud bod teimlad cyffredinol yn yr ardal fod pobol yn amharod i wario cymaint ag yr oedden nhw’n arfer ei wario.

“Rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn, rydyn ni wedi bod yn brysur iawn y ddwy flynedd,” meddai.

“Y tymor diwethaf yma, roedden ni’n brysur iawn hefyd.

“Mae’r llety wedi bod yn brysur iawn, o bosib bod y bwyty wedi bod ychydig yn ddistawach o gymharu â llynedd.

“Ond y llety’r un fath, fedrwn ni ond cymryd hyn a hyn – rydyn ni wedi bod yr un fath â’r llynedd, sef llawn drwy’r tymor, fwy neu lai.

“Ond yn bendant efo’r bwyty, dydy pobol ddim yn gwario gymaint o arian, gawn ni roi o felly.”

‘Ein niferoedd ar y fyny’

Fodd bynnag, mae gwesty yn Llangefni yn Sir Fôn wedi bod yn brysur ac yn rhagweld y bydd hyn yn parhau.

“Mae ein niferoedd ni ar i fyny,” meddai’r rheolwr Emrys Owen.

“Rydan ni wedi bod yn llawn bob wythnos trwy’r haf.

“Dydy ein cegin ddim yn agored ar y funud ond mi fydd o’n fuan ac o bosib y bydd hynny’n cael effaith ar y niferoedd sy’n dod i aros.”

Mae’n teimlo fod opsiynau llety eraill o wefannau fel AirBnb yn cael effaith ar westai lleol.

“Dw i’n siŵr fod Airbnbs yn cael effaith achos maen nhw’n rhatach, ond rydan ni’n gwneud yn reit dda.”

Ceidwadwyr yn ‘benderfynol’ o wella’r sector

Wrth ymateb i’r ffigurau, dywed Tom Giffard eu bod nhw’n “ddigalon ar y gorau”.

“Yr unig gymhariaeth gyda 2022 ydy deiliadaeth gwestai ac mae gweld gostyngiad wir yn siomedig o ystyried fod y gymhariaeth rhwng eleni a diwedd y pandemig,” meddai.

“Mae Llafur yn dewis a dethol yr ystadegau unwaith eto gyda’u crynodeb o’r adroddiad, gan ddatgan fod y ffigurau Gwanwyn hyn yn well na rhai’r Gaeaf, fel pe bai hynny’n annisgwyl o gwbl.

“Mae’r Llywodraeth Lafur wedi methu â denu ymwelwyr i Gymru ers i’w rheoliadau 182 diwrnod niweidiol ddod mewn i rym ac mae’n bwriadu cyflwyno treth twristiaeth wenwynig.

“Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sy’n benderfynol o wella ein sector twristiaeth gyda strategaeth gadarnhaol, amgen.”

‘Anwybyddu’r cyd-destun ehangach’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r ystadegau y cyfeiriwyd atynt yn anwybyddu’r cyd-destun ehangach.

“Y mae’r sectorau llety  eraill yn perfformio’n dda ac yn cynyddu fis ar ôl mis yn ystod y flwyddyn.

“Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddariad chwarterol ac nid yw wedi’i gynllunio i dynnu cymariaethau manwl o flwyddyn i flwyddyn – mae i fod i ddangos dilyniant drwy’r flwyddyn.

“Bydd adroddiad llawn 2023 yn cael ei ryddhau ddechrau 2024 a fydd yn darparu cymariaethau manylach.”