Mae cynlluniau i ddarparu addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yng ngogledd-ddwyrain Powys wedi cael eu cymeradwyo gan Gabinet Cyngor Sir Powys heddiw (Medi 26).
Dan y cynlluniau gafodd eu hystyried, bydd Ysgol Bro Caereinion yn Llanfair Caereinion yn symud ar hyd y continwwm ieithyddol i ddod yn ysgol cyfrwng Cymraeg.
Byddai’r newid arfaethedig yn cael ei gyflwyno gam wrth gam, flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan ddechrau gyda Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7 ym mis Medi 2025.
Fe fyddai cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu i ddisgyblion sydd ddim yn y ffrwd Gymraeg ar y funud drwy gynllun ‘Trochi’ yn y Gymraeg.
Cafodd dyfodol ysgolion yn nalgylch Llanfyllin a Gogledd Y Trallwng eu trafod hefyd, ac mae’r cynigion yn ffafrio adeiladu tair ysgol newydd, gan gefnogi ysgolion i symud ar hyd y continwwm ieithyddol i wella’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Gallai rhai ysgolion gael eu cyfuno a gallai eraill gau fel rhan o’r cynigion, gan gynnwys Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yn Llangedwyn, Ysgol Bro Cynllaith ac Ysgol Gynradd Brynhafren.
Daw’r holl gynigion wrth i Gyngor Sir Powys barhau i gyflawni camau nesaf eu Rhaglen Trawsnewid Addysg, gafodd ei hail-lansio’r llynedd.
‘Cwbl ddwyieithog’
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy’n Dysgu, mai’r unig ffordd i adeiladu “Powys Gryfach, Decach a Gwyrddach yw drwy sicrhau’r dechrau gorau mewn bywyd i’n pobol ifanc”.
“Un o’r ffyrdd o gyflawni hynny yw drwy drawsnewid addysg,” meddai.
“Byddai’r cynigion hyn yn gweld y cyngor yn darparu darpariaeth wedi ei chynllunio’n dda ar gyfer cynyddu cyfleoedd i nifer cynyddol o blant a phobol ifanc ddod yn gwbl ddwyieithog a rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg wrth gyflenwi cyfleusterau sy’n addas i’r 21ain Ganrif a fyddai’n darparu amgylchedd ble mae dysgwyr ac athrawon yn cyflawni eu potensial.
“Rwyf o’r farn bod y cynigion hyn yn bodloni nodau Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys ac yn gweithredu’r ymrwymiadau yn ein Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg, a fydd yn ein galluogi ni i wneud cynnydd da yn erbyn ein targed o gynyddu’r nifer o ddisgyblion sy’n cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.”
Wrth gyfeirio at drefniadau newydd posib yng nghyffiniau Llanfyllin a’r Trallwng, dywedodd y Cynghorydd Peter Roberts bod “yr holl newidiadau yn amodol ar broses statudol aildrefnu ysgolion sy’n cynnwys ymgynghoriad ag ysgolion yn eu cymunedau, cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud”.