Bydd angen holl ddisgyblion cynradd Cymraeg y dalgylch ar ysgol uwchradd ym Mhowys os yw ei throi hi’n ysgol Gymraeg am lwyddo.
Yr wythnos ddiwethaf, daeth i’r amlwg fod Cyngor Sir Powys eisiau symud Ysgol Bro Caereinion yn Llanfair Caereinion ymhellach ar hyd y “continwwm iaith”, ac iddi ddod yn ysgol Gymraeg.
Fis Medi y llynedd yn unig y gwnaeth Ysgol Gynradd Llanfair Caereinion ac Ysgol Uwch Caereinion uno i ddod yn Ysgol Bro Caereinion ar gyfer disgyblion pedair i ddeunaw oed, a’r ysgol yn un â dwy ffrwd.
Fel yr eglura Marianne Evans, rheolwr trawsnewid yr ysgol, pan gafodd ei sefydlu’n ysgol â dwy ffrwd, byddai’r Cyngor yn “parhau i gydweithio” â llywodraethwyr yr ysgol i ddatblygu darpariaeth Gymraeg.
“Rydyn ni wedi bod yn eithaf clir o hyd am ein huchelgais ar gyfer Bro Caereinion,” meddai.
“Mae nifer y disgyblion sy’n bwydo Bro Caereinion yn y ffrwd Saesneg wedi gostwng yn sylweddol dros gyfnod o amser.
“Daw’r unig ddisgyblion Saesneg sy’n bwydo cyfnod uwchradd Bro Caereinion o gyfnod cynradd Bro Caereinion ac Ysgol Rhiw Bechan yn Nhregynon.
“Mae yna heriau ariannol hefyd wrth redeg ysgol â dwy ffrwd.”
‘Unman i fynd’
Problem fawr gafodd ei hegluro gan Marianne Evans yw nad oes dim llwybr “clir” i ddisgyblion Cymraeg ei ddilyn ar ôl gorffen yn yr ysgol gynradd.
“Mae gennym ni ddisgyblion sy’n mynd trwy addysg Gymraeg ac wedyn yn dewis naill ai’r ffrwd ddwyieithog neu ddarpariaeth Saesneg, gan nad oes darpariaeth uwchradd Gymraeg ddynodedig,” meddai.
“I’r Cyngor hwn, mae’n eiliad o garreg filltir; mae hon yn broblem rydyn ni wedi cael ein lobïo yn ei chylch dros y 30 mlynedd diwethaf.”
Yn ôl y Cynghorydd Gareth D. Jones, cynghorydd sir annibynnol dros Lanfair Caereinion, “mae’r cyflymdra wedi ein synnu ni’n llwyr, ac mae’r diffyg cyfathrebu hefyd wedi ein siomi ni”.
“Ar y cyfan, mae’n rywbeth mae’r llywodraethwyr yn ei groesawu.”
Ysgol Dafydd Llwyd yn y Drenewydd
Yn Ysgol Dafydd Llwyd yn y Drenewydd, mae’r ffigurau diweddara’n dangos bod yna 196 o ddisgyblion yn yr ysgol sy’n cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg – gydag 17 yn nosbarth uchaf Blwyddyn 6.
Yn draddodiadol, mae’r ysgol wedi anfon disgyblion yn eu blaenau i Lanfair Caereinion.
Ond dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r ysgol wedi bod ar eu colled wrth i nifer o ddisgyblion ddewis mynd i Ysgol Uwchradd Llanidloes.
“Mae’r niferoedd hyn yn iach iawn, fodd bynnag dydyn nhw ddim i gyd yn dod draw i Gaereinion, mae’n well ond ddim yn agos at y [niferoedd] allai ddod yma,” meddai’r Cynghorydd Gareth D. Jones.
“Oes yna gynllun i edrych eto ar y dalgylchoedd ac alinio Caereinion ar gyfer Dafydd Llwyd yn unig?”
Cafodd y dalgylchoedd eu hadolygu’n gynharach eleni, gyda Dafydd Llwyd yn cael ei chategoreiddio fel “dalgylch deuol”.
Mae hyn yn rhoi dewis i rieni rhwng Bro Caereinion a Llanidloes.
“Y rheswm pam na wnaethon ni osod Dafydd Llwyd gyda Chaereinion yn yr adolygiad hwnnw oedd fod y ddwy ysgol, yn dechnegol, o’r un categori ieithyddol – ac o ganlyniad i’r pellteroedd, doedden ni ddim yn gallu gwahaniaethu.
“Mae hyn yn newid y penderfyniad hwnnw.
“Pe bai hyn yn mynd rhagddo [yn y Cabinet], bydden ni’n ailymweld â’r dalgylchoedd o ganlyniad i hynny.”
Ysgol Gymraeg y Trallwng
Ychwanega Marianne Evans fod disgyblion Ysgol Gymraeg y Trallwng yn yr un cwch, “gyda disgyblion yn trosglwyddo i Fro Caereinion a rhai i Ysgol Uwchradd y Trallwng”.
“Er mwyn i Fro Caereinion fod yn llwyddiannus, mae angen i ni wneud y mwyaf o’r niferoedd o ddisgyblion sy’n trosglwyddo yno fel eu darparwr dethol,” meddai.
“Dw i’n credu bod y niferoedd hynny yno – ond mae angen pob un ohonyn nhw arnom.”
Ar hyn o bryd yn yr ysgolion cynradd sy’n bwydo Bro Caereinion, mae 566 o ddisgyblion yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg, a 105 yn Saesneg.
Mae disgwyl i Gabinet Democratiaid Rhyddfrydol/Llafur Cyngor Powys gymeradwyo’r cynnig yn eu cyfarfod ddydd Mawrth nesaf (Medi 26).