Mae Llywodraeth Cymru wedi llofnodi’r Siarter Rhianta Corfforaethol, er mwyn ymrwymo i’w haddewidion i blant sy’n derbyn gofal.
Mae’r term rhianta corfforaethol yn cyfeirio at gyfrifoldeb cyfunol y sector cyhoeddus pan ddaw i hyrwyddo hawliau a chyfrifoldebau plant a phobol ifanc sydd â phrofiad o ofal.
Yn y siarter, mae amlinelliad o’r egwyddorion y dylai cyrff cyhoeddus eu dilyn yn eu gwasanaethau.
Mae’r rhain yn cynnwys dileu stigma a darparu cartref sefydlog, addysg ac iechyd da.
Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford ei bod yn “bleser” llofnodi’r siarter.
“Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn amlinellu ein gweledigaeth uchelgeisiol i drawsnewid gwasanaethau plant yng Nghymru,” meddai.
“Bydd yn cefnogi ein holl gyrff cyhoeddus i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael yr un cyfleoedd bywyd â phob plentyn a pherson ifanc arall.”
‘Rhaid parchu hawliau plant a phobol ifanc’
Fe wnaeth Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, lofnodi’r Siarter hefyd, gan nodi pa mor bwysig yw sicrhau bod plant a phobol ifanc sydd â chefndir o ofal yn cael yr un hawliau â phawb arall.
“Fis Rhagfyr y llynedd, gwnaethom gynnal Uwchgynhadledd Profiad o Ofal cyntaf Cymru, gan ddod â phobl ifanc â phrofiad o ofal a Gweinidogion Cymru ynghyd i ddatblygu gweledigaeth radical ac uchelgeisiol ar y cyd ar gyfer y dyfodol,” meddai.
“Neges allweddol yr Uwchgynhadledd, dan arweiniad Llysgenhadon Ifanc, oedd bod rhaid parchu hawliau plant a phobol ifanc sydd â phrofiad o ofal, rhoi llais iddyn nhw a gwrando arnyn nhw.
“Rwy’n galw ar yr holl gyrff cyhoeddus, sefydliadau gwirfoddol a busnesau yng Nghymru i ymuno â ni i wneud yn siŵr bod plant a phobol ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd ag y mae pob person ifanc yn ei haeddu.”
Mae hawl gan unrhyw gorff cyhoeddus, sefydliad trydydd sector neu fusnes ymrwymo i’r Siarter.
Dywed Dr Andrew Goodall, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, ei fod eisiau gweld cyrff cyhoeddus ar draws Cymru’n arwyddo i ymrwymo i hyrwyddo hawliau pobol ifanc.
“Dylai pob corff cyhoeddus fod yn gyfrifol am gefnogi plant sydd â phrofiad o ofal,” meddai.
“Rydyn ni eisiau i’n sector cyhoeddus ddeall a datblygu eu cyfrifoldebau i blant a phobol ifanc â phrofiad o ofal ledled Cymru.
“Rwy’n croesawu lansiad y Siarter Rhianta Corfforaethol ac rwy’n annog cyrff cyhoeddus ar draws Cymru i ymrwymo i’r Siarter heddiw.”