Wrth i Gyngor Cymuned Llanrug gefnogi’r alwad am Ddeddf Eiddo, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar gynghorau eraill y wlad i ddilyn eu hesiampl.
Mewn cyfarfod ar Awst 15, cynigiodd y Cynghorydd Hefin Jones y dylai’r Cyngor Cymuned gefnogi ymgyrch Deddf Eiddo’r Gymdeithas, sy’n “gynhwysfawr deg”.
O ganlyniad i’r cynnig, penderfynodd y Cyngor “[g]efnogi amcanion Cymdeithas yr Iaith” ac y dylai Hefin Jones gynrychioli’r Cyngor mewn unrhyw gyfarfod.
Yn ôl y cynghorydd, “mae’r alwad ar Lywodraeth Cymru gan Gyngor Cymuned Llanrug yn glir”.
“Mae angen Deddf Eiddo ar frys,” meddai.
“Rydym wedi gweld ein hunain y niwed i’n cymunedau sy’n dod yn sgil y farchnad dai agored, a does dim modd cyfiawnhau mwy o oedi cyn cyflwyno ddeddfwriaeth fyddai’n dechrau mynd i’r afael a’r broblem.”
‘Angen gweithredu ar frys ac o ddifri’
Mae Jeff Smith, cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith, yn croesawu cefnogaeth Cyngor Cymuned Llanrug ar gyfer Deddf Eiddo.
“Mae mwy a mwy o bobol ledled Cymru’n gweld bod angen i’r Llywodraeth weithredu ar frys ac o ddifri er mwyn sicrhau parhad ein cymunedau, ac yn deall bod angen trin tai fel asedau cymunedol er budd pobol leol, ac nid yn unig fel asedau ariannol ar gyfer buddsoddwyr,” meddai.
“Galwn yn awr ar gynghorau cymunedol eraill i ddatgan eu cefnogaeth i Ddeddf Eiddo cynhwysfawr o fewn y tymor seneddol hwn.”