Mae rhai o Aelodau’r Senedd wedi codi pryderon am ddiffyg corff i warchod yr amgylchedd yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, Cymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sydd heb gorff parhaol i graffu ar ei record amgylcheddol.

Daw’r pryderon yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn y Senedd.

Yn ôl yr adroddiad, mae’r ymdrechion i ddisodli’r mesurau llywodraethu amgylcheddol o gyfnod yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn “annigonol”.

“Mae’r ffaith fod Llafur heb gorff gwarchod amgylcheddol, ar ôl yr achosion erchyll o ddympio dros y flwyddyn ddiwethaf, yn annerbyniol,” meddai Janet Finch-Saunders, llefarydd newid hinsawdd y Ceidwadwyr Cymreig.

Newid ar y gweill

Sefydlodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Swyddfa annibynnol ar gyfer Diogelu’r Amgylchedd yn 2021 ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon, tra bod Llywodraeth yr Alban wedi sefydlu Safonau Amgylcheddol yr Alban.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai deddfwriaeth yn cael ei gyflwyno yn ystod y tymor hwn yn y Senedd, er mwyn sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol i Gymru.

“Bydd y mesur yn cynnwys targedau bioamrywiaeth a thargedau adfer natur yn ogystal â threfniadau llywodraethu amgylcheddol ar ôl yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.

“Mae Asesydd Diogelu’r Amgylchedd Dros Dro ar gyfer Cymru (IEPAW) wedi’i sefydlu, sy’n hyrwyddo amddiffyniadau amgylcheddol ac yn cyflawni rôl bwysig wrth adolygu fframwaith cyfraith amgylcheddol.”

Methiannau amgylcheddol

Ond mae Janet Finch-Saunders wedi codi pryderon ynglŷn â rhai o fethiannau eraill Llywodraeth Cymru hefyd.

“Dydyn nhw dal heb gyhoeddi eu hadroddiad gorlif stormydd sydd chwe mis yn hwyr bellach,” meddai.

“Mae record wael Llafur ar yr amgylchedd yn amlwg; mae sut mai nhw yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig heb Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd yn syfrdanol.

“Er eu holl hunanfoddhad ar yr amgylchedd yng Nghymru, mae’n amlwg eu bod nhw i gyd yn siarad ond ddim yn gweithredu.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb pellach i’r pryderon hyn.