Fe wnaeth twristiaid roi hwb sylweddol i economi Sir Gaerfyrddin y llynedd, yn ôl Cyngor Sir Caerfyrddin.

Maen nhw’n dweud bod twristiaid wedi cynhyrchu gwerth £596.51m o incwm i’r economi leol dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ymwelodd dros 3.46m o bobol â’r sir arfordirol a gwledig yn ystod y flwyddyn, sy’n cyfateb i fwy na 7.19m o ddiwrnodau y gwnaeth twristiaid eu treulio yn y sir.

Arhosodd 1.17m o bobol dros nos yn un o 1,250 o sefydliadau’r sir.

Mae 6,652 o bobol wedi’u cyflogi yn y diwydiant twristiaeth yn y sir, ac mae effaith economiadd twristiaid wedi cynyddu gan 66% ers 2011 – o £358.89m bryd hynny i £596.5m erbyn 2022.

Buddsoddi mewn prosiectau twristaidd

Mae dau brosiect yn y sir, Parcio Llansteffan ac Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, wedi derbyn cyfran o gronfa Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru i ddarparu profiad gwyliau o’r radd flaenaf.

Mae Parcio Llansteffan wedi derbyn £224,000 allan o fuddsoddiad prosiect gwerth £280,000 er mwyn gwella cyfleusterau parcio’r sir ac i wneud gwelliannau ar gyfer ymwelwyr â’r pentref.

Mae Amgueddfa Sir Gaerfyrddin wedi derbyn £264,000 allan o £280,000 i gynnal ail gam y gwelliannau yn y cyfleuster hanesyddol yn Abergwili ger Caerfyrddin.

Ar hyn o bryd, mae’r Amgueddfa yn arddangos y campwaith Tobias a’r Angel gan Andrea del Verrocchio, a bydd y cyllid yn cael ei fuddsoddi yn y maes parcio a gwelliannau i ymwelwyr, er mwyn gwella capasiti a hygyrchedd.

Cydweithio

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn cydweithio â darparwyr twristiaeth a lletygarwch lleol, gan gynnwys gwestai, lletyau gwely a brecwast, atyniadau twristiaeth, darparwyr gweithgareddau, bwytai, tafarndai, busnesau a manwerthwyr, i roi’r croeso perffaith i ymwelwyr a’u hannog i ddychwelyd i’r sir.

“Mae llawer iawn o waith caled yn digwydd ar draws ein sir, nid yn unig i ddenu ymwelwyr i’r rhan unigryw a rhyfeddol hon o Gymru, ond hefyd i wneud iddyn nhw fod eisiau dychwelyd yma ar wyliau yn y dyfodol,” meddai’r Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth.

“Mae diwydiant twristiaeth Sir Gaerfyrddin yn darparu swyddi i bobol leol ac yn cefnogi busnesau lleol; felly rwy’n falch iawn bod y Cyngor Sir wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i wella’r atyniadau i ymwelwyr yn Llansteffan ac Amgueddfa Caerfyrddin.”

Yn ôl Dawn Bowden, mae prosiectau sy’n cael eu hariannu drwy gronfa Y Pethau Pwysig “yn gwneud gwahaniaeth go iawn”.

“Mae gan amwynderau twristiaeth lleol ran fawr i’w chwarae wrth wneud taith yn un gofiadwy,” meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru.

“Yn aml, nid yw pobol yn sylwi ar y cyfleusterau hyn, ond maen nhw’n rhan bwysig o brofiad ymwelwyr ac maen nhw hefyd o fudd i bobl leol.”