Mae deiseb sydd wedi’i sefydlu yn galw am ddefnyddio’r enw Cymraeg ‘Ynys Môn’ neu ‘Môn’ yn unig, ac nid yr enw Saesneg ‘Anglesey’ ar yr ynys, wedi denu cannoedd o lofnodion.
Cafodd y ddeiseb ei sefydlu gan Bryn Thomas, sy’n dweud nad oes gan rai siroedd yng Nghymru enwau Cymraeg a Saesneg.
Dywed fod yr enw Cymraeg yn hawdd ei ynganu, ac y gall defnyddio dau enw fod yn “ddryslyd i dwristiaid”.
I’r gwrthwyneb, gallai un enw “[g]adw treftadaeth Gymraeg yn fyw ar yr ynys.
Testun llawn y ddeiseb
“Dylid rhoi’r gorau i ddefnyddio’r enw ‘Anglesey’ a defnyddio’r enw ‘Ynys Môn’ yn unig neu’r enw byrrach ‘Môn’,” meddai’r cyflwyniad i’r ddeiseb.
“Nid oes enw Cymraeg a Saesneg gan rai siroedd eraill yng Nghymru.
“Mae’n hawdd i bawb ynganu Môn, pa iaith bynnag y mae’n siarad.
“Mae dau enw ar gyfer sir yn ddryslyd i dwristiaid, ond bydd un enw yn cadw treftadaeth Gymraeg yn fyw ar yr ynys.”
Mae dros 700 o bobol wedi llofnodi’r ddeiseb erbyn hyn.
Caiff pob deiseb sy’n denu dros 250 o lofnodion ei thrafod, a chaiff unrhyw ddeiseb sy’n cyrraedd 10,000 o lofnodion ei hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd.