Mae Llinos Medi, arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, wedi cyhoeddi ei bwriad i geisio ennill ymgeisyddiaeth Plaid Cymru ar gyfer Ynys Môn yn etholiad cyffredinol nesaf San Steffan.
Mae disgwyl i’r etholiad gael ei gynnal yn y gwanwyn.
Gyda ffiniau etholaethol Cymru’n newid ar gyfer yr etholiad hwn, mae gan Ynys Môn warchodaeth yn erbyn ei newid.
Ar ei thudalennau cyfryngau cymdeithasol, dywed Llinos Medi ei bod hi’n bwriadu sefyll “dros degwch, dros uchelgais, dros Gymru”.
‘Llais yr ynys’
Mae hi’n ymhelaethu ar ei rhesymau mewn fideo sydd wedi ymddangos ar ei thudalen Facebook.
“Dros yr wythnosau diwethaf, dw i wedi bod yn meddwl gryn dipyn am ddyfodol yr ynys yma, y math o gynrychioliaeth rydan ni ei heisiau yn San Steffan,” meddai.
“Ac oherwydd hynny, dw i wedi penderfynu rhoi fy enw ymlaen i fod yn ddarpar ymgeisydd i Blaid Cymru.
“Dw i’n fam sy’n magu fy mhlant yma.
“Dw i’n ferch wedi fy magu fy hun yma.
“Mae fy ffrindiau a fy nheulu i yma yn Sir Fôn, ac mae fy ngwreiddiau i’n ddwfn yma ar yr ynys.
“Dyna pam dw i eisiau bod yn llais yr ynys yn San Steffan, y llais sy’n nabod y cymunedau yma, ac sydd wedi byw yma ar yr ynys.
“Mae’r chwe blynedd diwethaf fel arweinydd wedi fy ngwneud i’n llawn ymwybodol o’r heriau rydan ni’n eu hwynebu yma ar yr ynys, a dyna sy’n fy ngyrru i i fod y llais dros Ynys Môn yn San Steffan.”