Mae cynghorwyr sir wedi clywed na fydd ymestyn y gwaharddiad ar yfed gwrthgymdeithasol ar strydoedd canol tair o drefi Ceredigion “yn atal cyplau oedrannus rhag cael gwydryn o win ar y traeth”.
Mae tri gorchymyn Gwarchod Gofod Cyhoeddus yn eu lle yng Ngheredigion, sy’n ymwneud â chanol trefi Aberystwyth, Aberteifi a Llanbed, sy’n rhoi’r hawl i wahardd yfed alcohol mewn mannau dynodedig er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus.
Mae gweithredu’r gorchymyn yn golygu ei bod hi’n drosedd i wrthod cydymffurfio â chais gan blismon neu swyddog awdurdodedig i beidio ag yfed alcohol, neu i wrthod ildio alcohol i swyddog.
Yn ystod eu cyfarfod ym mis Medi, fe wnaeth aelodau o Gabinet Cyngor Sir Ceredigion gefnogi argymhelliad i ymestyn y gorchmynion am dair blynedd arall.
Aeth y mater gerbron cyfarfod o’r Cyngor llawn ar Fedi 21, lle rhoddodd aelodau eu cefnogaeth unfrydol i’r gorchmynion barhau yn y tair tref, ar ôl cynnig gan Matthew Vaux, yr Aelod Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethiant a Gwarchod y Cyhoedd.
‘Nid gwaharddiad ar alcohol mo hwn’
Un o’r rhai sy’n gefnogol yw Alun Williams, cynghorydd Aberystwyth Morfa a Glais.
“Nid gwaharddiad ar alcohol mo hwn,” meddai.
“Gall yr heddlu farnu.
“Dydy e ddim yn atal cyplau oedrannus rhag cael gwydryn o win ar y traeth.
“Dw i’n cofio’r mathau o sefyllfaoedd yng nghanol tref Aberystwyth cyn i hyn ddod i rym; roedd terfyn cyflym iawn ar y math yna o ymddygiad,” meddai wrth ei gyd-aelodau.
“Er mwyn gorfodi, mae angen hysbysu’r heddlu am broblemau adeiladu.
“Dw i’n credu ei bod yn arf bwerus iawn ymhlith arfau’r holl wasanaethau wrth atal ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein holl drefi.”
Adolygiad
Mae’n rhaid cynnal adolygiad bob tair blynedd, a lle mae gorchymyn presennol yn parhau does dim angen ymgynghoriad llawn.
Byddai angen ymgynghoriad llawn pe bai ffiniau daearyddol yr ardal ddynodedig yn newid, neu pe bai gweithgareddau ychwanegol yn cael eu hychwanegu at y gwaharddiad, megis cardota neu fysgio.
Clywodd cynghorwyr y bydd ehangu’r gorchmynion yn costio oddeutu £700 drwy hysbysiadau cyhoeddus yn cael eu gosod yn y wasg.