Mae Cyngres Sbaen wedi cymeradwyo’r defnydd o ieithoedd cyd-swyddogol yn y senedd.

Cafodd y camau cyntaf eu cymryd ddechrau’r wythnos, wrth i’r rheolau gael eu haddasu er mwyn hwyluso’r defnydd o’r Gatalaneg, Basgeg a Galiseg.

Ddoe (dydd Iau, Medi 21), pleidleisiodd gwleidyddion o blaid addasiad gyda mwyafrif o 180, gyda 170 yn erbyn.

Ymhlith y pleidiau bleidleisiodd yn ei erbyn roedd Plaid y Bobol, Vox ac UPN, ond roedd pob un o’r pleidiau dros annibyniaeth, gan gynnwys Esquerra a Junts per Catalunya, o blaid.

Cafodd gwelliannau gan Vox a Phlaid y Bobol i atal y defnydd o ieithoedd cyd-swyddogol eu hwfftio.

Un gwelliant gafodd ei dderbyn oedd hwnnw gan blaid PNB o Wlad y Basg, ac mae’n golygu y bydd pob cyfraith sy’n cael ei chymeradwyo yn nhŷ isa’r senedd yn cael eu cyhoeddi ym mhob un o ieithoedd y wladwriaeth, gan roi’r un statws cyfreithiol i bob iaith wrth drafod deddfwriaeth.

Pliwraliaeth ac amlieithrwydd

Mae nifer o bleidiau wedi croesawu’r cam hanesyddol fydd yn arwain at normaleiddio amlieithrwydd mewn gwlad sy’n arddel pliwraliaeth.

Dywed un o wleidyddion y Blaid Sosialaidd y bydd yn arwain at sefyllfa sy’n teimlo “mwy fel Sbaen”.

Yn ôl Marc Lamuà, “dydy’r defnydd o un iaith byth yn erbyn un arall”, ac mae’n dweud y bydd ei blaid yn “gyfrifol” am geisio sicrhau na chaiff un iaith ei defnyddio fel arf yn erbyn un arall.

Ond mae Junts per Catalunya yn cyhuddo’r Sosialwyr o weithredu “nid o argyhoeddiad, ond yn hytrach o anghenraid”.

Dywed Pilar Calvo fod Meritxell Batet, y Llefarydd Sosialaidd yn y senedd, wedi ei gwahardd hi o’r ddeddfwrfa y tro diwethaf iddi siarad yr iaith Gatalaneg yno.

Yn ôl Esquerra, mae’r gallu i siarad ieithoedd cyd-swyddogol yn y senedd yn “fuddugoliaeth ddemocrataidd i filoedd ar filoedd o bobol trwy gydol ein hanes”.

Dydy “pliwraliaeth ddim yn codi ofn ar neb”, yn ôl plaid Sumar, sy’n dweud bod “rhaid i’r hyn sy’n normal ar y stryd fod yn normal o fewn sefydliadau” mewn “gwlad amrywiol”.

Ond mae Vox a Phlaid y Bobol yn dweud bod y drafodaeth wedi bod yn “sioe anghyfreithlon” ac yn ffordd o foesymgrymu i’r pleidiau sydd o blaid annibyniaeth.

Maen nhw’n dweud mai’r cam nesaf fydd rhoi pardwn i’r rhai gafodd eu herlyn am ymgyrchu tros annibyniaeth yn 2017.

Mae’r pleidiau dros annibyniaeth a’r Sosialwyr yn cyhuddo’i gilydd o fanteisio ar ei gilydd am resymau gwleidyddol  – i geisio annibyniaeth ar y naill law, ac i sicrhau bod Pedro Sánchez yn cael ei ethol yn Brif Weinidog Sbaen ar y llaw arall.

Cyfieithu ar y pryd

Yn ystod Cyfarfod Llawn yn Senedd Sbaen ddechrau’r wythnos, cafodd y geiriau Catalaneg cyntaf eu siarad yn y Gyngres.

Gabriel Rufián o blaid Esquerra gafodd y fraint, gan ddweud y byddai’n “siarad yn yr iaith Gatalaneg am fy mod i’n gallu, diolch i’r system addysg Gatalaneg, ac am mai dyma iaith fy ngwlad”.

Daeth y cynnig i dderbyn y defnydd o ieithoedd cyd-swyddogol yn y siambr o ganlyniad i gytundeb i enwi Cabinet y Gyngres, gyda Francinca Armengol o’r Sosialwyr yn Llefarydd.

Mae gwasanaeth cyfieithu ar y pryd bellach yn weithredol, gyda chwech o gyfieithwyr ar gael ar yr un pryd.

Mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnwys dwy sgrîn fawr gydag is-deitlau.