Bydd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd ddydd Mercher nesaf (Medi 27), yn ôl adroddiadau.
Fe yw’r Gweinidog oedd y wrth y llyw wrth lunio’r polisi terfynau cyflymder 20m.y.a.
Mae’r bleidlais wedi’i chyflwyno gan y Ceidwadwyr Cymreig yn dilyn yr ymateb chwyrn a fu i’r cyhoeddiad am y polisi newydd.
Mae deiseb yn gwrthwynebu’r polisi wedi derbyn mwy o lofnodion nag unrhyw ddeiseb arall yn hanes Senedd Cymru, gyda thros 300,000 o bobol wedi ei llofnodi.
Dywed Mark Baker, awdur y ddeiseb sy’n dod o Ben-y-bont ar Ogwr, ei fod wedi ei chychwyn ar ôl i’r polisi gael ei chyflwyno mewn naw gair yn unig ym maniffesto Llafur, ac felly mae’n pryderu nad oedd yn egluro’n iawn i bobol sut y byddai’n effeithio arnyn nhw.
‘Cefnu ar y polisi’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd wedi cyhuddo Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol o droi eu cefnau ar y polisi.
Mae Ed Davey, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Deyrnas Unedig, wedi dweud y dylai cymunedau yng Nghymru gael mwy o lais ar ba ffyrdd fydd yn cael eu heithrio o’r polisi.
Er hynny, dywedodd wrth BBC Cymru ei fod yn cefnogi’r mesurau ar y cyfan ac yn “cytuno â datganoli”, gan nodi bod Jane Dodds, arweinydd y blaid yng Nghymru, wedi cefnogi’r polisi 20m.y.a.
Ond dywed fod ganddyn nhw “un feirniadaeth” o ddulliau Llywodraeth Cymru, sef nad yw cymunedau lleol wedi cael dweud pa ffyrdd ddylai gael eu heithrio.
Mae Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, wedi beirniadu Jane Dodds am beidio â phleidleisio yn erbyn y polisi pan fu i’r Ceidwadwyr orfodi pleidlais yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf (Medi 13).
Mae hi hefyd wedi tynnu sylw at gefnogaeth Jane Dodds i’r cynnig gafodd ei gyflwyno ar y Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig fis Gorffennaf diwethaf.
‘Dadleuon pwerus cryf’
Mae sylwadau Natasha Asghar yn awgrymu bod Jane Dodds wedi mynd yn groes i safiad Ed Davey ar y polisi, er i’r arweinydd ddweud ei fod yntau hefyd yn ei gefnogi.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r ddadl y bydd y polisi yn achub bywydau.
“Mae cyflwyno terfyn cyflymder 20mya mewn ardaloedd preswyl yn bennaf wedi’i gynllunio i achub bywydau a gwneud ein cymunedau’n fwy diogel i bawb, gan gynnwys modurwyr,” meddai llefarydd.
“Cafodd ei hymchwilio’n drylwyr, pleidleisiwyd arno yn y Senedd a chafodd gefnogaeth gan fwyafrif o Aelodau’r Senedd.
“Bu ymgynghori helaeth ac mae wedi’i dreialu mewn cymunedau ledled Cymru.”